Tumgik
gwagedd · 7 months
Text
Aeron a blodau
Hawthorn, Draenen wen, Aeron coch. Deilio cyn iddo flodeuo (Ebrill - Mehefin).
Tumblr media
Blackthorn, Draenen ddu, Aeron du (sloes). Blodau (Mawrth - Mehefin) cyn dail.
Tumblr media
0 notes
gwagedd · 10 months
Text
Y ddraig goch- beth yw’r hanes?
Tumblr media
Gwrtheyrn a'r Dreigiau
Daw’r llun o lawysgrif o’r bymthegfed ganrif sy’n cynnwys ‘Brut y Brenhinedd’ gan Sieffre o Fynwy, a ysgrifennwyd ar ddechrau’r 12fed ganrif. Mae'r rhan hon yn adrodd hanes y ddwy ddraig y bu eu hymladd yn dymchwel castell Gwrtheyrn. Mae Myrddin yn dehongli'r Ddraig Goch fel un sy'n cynrychioli'r Brythoniaid ac roedd y Ddraig Wen yn cynrychioli'r Sacsoniaid. Mae’n fersiwn o’r stori o’r 9fed ganrif sydd wedi’i chynnwys yn y ‘Historia Brittonum’, ond yn y fersiwn gynharach hon, y proffwyd yw Ambrosius. Mabwysiadwyd y Ddraig Goch hon gan Owain Tudur fel ei fathodyn a'i defnyddio gan Harri Tudur ar ei faner yn Bosworth. O hyn ymlaen, fe’i dynodwyd yn un o Fwystfilod y Brenin, a gafodd ei gydnabod yn swyddogol yn y pen draw fel baner Cymru yn y 1950au.
Tumblr media
5 notes · View notes
gwagedd · 2 years
Text
Tumblr media
When the ones defending that Basque is a tribal, tiny language almost no one speaks discover it has twice the speakers than Icelandic.
149 notes · View notes
gwagedd · 2 years
Text
Croes Eliseg
Mae Croes Eliseg neu Golofn Eliseg yn golofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Saif yn agos i Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, Sir Ddinbych. Credir mai camgymeriad ar ran y cerfiwr oedd cerfio "Eliseg" yn lle "Elisedd".
Tumblr media Tumblr media
Trevor Lloyd, the landowner in 1773 is said to have conducted an examination and found a stone cist burial in which he claimed to have found a skeleton and artefacts, which he removed. The mound which supports the pillar was subjected to excavation in the years 2010, 2011 and 2012 by Project Eliseg. This established that the earliest phase of construction was that of a kerbed platform cairn, dated by type to around 2000 BC. A small cist in the first phase of construction yielded evidence of burnt human bone, confirming its use as a burial site. The second phase of construction consisted of a raising in height of the cairn and contained a large cist considered as Early Bronze Age, however, no human remains were found. A further cist was found in this phase which contained some 7 kg of cremated bone, which represents numerous adult, juvenile and infant burials. A flint knife and a bone pin were also recovered. The final phase of construction appeared to be relatively modern and probably subsequent to the re-erection of the cross.
Tumblr media
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Bedd John Charles Jones (m.1956)
Tumblr media
Un arall a gafodd ei gladdu ar Ynys Tysilio yw Esgob J C Jones, ei enw erbyn y diwedd. Ganed yn Llansaint, Sir Gaerfyrddin yn 1904. Aeth i Ysgol Rammadeg Caerfyrddin ac ymlaen i Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt lle cafodd raddau dosbarth cyntaf yn Hebraeg a Diwinyddiaeth. Ordeiniwyd diacon flwyddyn yn ddiweddarach gan Esgob Ty Ddewi. A year later, he was ordained deacon by the Bishop of St Davids in 1929. After becoming a priest in 1930, he was curate in Llanelli and later Aberystwyth.
In 1934 he moved to Africa to teach theology at Bishop Tucker Memorial College in Mukono, Uganda. From 1939-45 he was the college’s warden and sole administrator. His wife Mary, a nurse, assisted him in his missionary work, which included setting up education facilities for the wives of Ugandan clergymen.
John Charles became vicar of Llanelli in 1945. His enthronement ceremony as Bishop of Bangor in 1949 was the first to be performed in Welsh. In the following year he led more than 4,000 people on a pilgrimage to Aberdaron, following a route which many early Christians had travelled in order to cross the water to Bardsey Island. After his death in Bangor on 13 October 1956, the Bishop John Charles Jones Memorial Fund was established to educate and train candidates for ordination in Africa, in Uganda especially.
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Te oer yw’r tebot arian,
Lliain fwrdd fel llyn y fan.
Cwpled cyntaf yr awdl fuddugol.
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Bedd John Evans, Y Bardd Cocos
Tumblr media
Mynwent Ynys Dysilio. Cafodd John Evans ei eni ym Mhorthaethwy yn y 1820au. Nid oedd yn gwybod pryd yn union y cafodd ei eni, ond yn ôl ei garreg fedd roedd yn 65 mlwydd oed pan fu farw ym Medi 1888.
Roedd yn enwog fel awdur cerddi a gafodd eu dilorni. Roedd yn argyhoeddedig, fodd bynnag, eu bod yn weithiau dwys. Cafodd ei adnabod fel Y Bardd Cocos oherwydd ei fod yn ennill ei fywoliaeth yn bennaf trwy werthu cocos. Roedd hefyd yn gwerthu rhai o’i gerddi wedi’u hargraffu ar daflenni un geiniog.
Mae ei gerdd enwocaf yn disgrifio’r llewod carreg ar bob pen i Bont Britannia:
Pedwar llew tew heb ddim blew,
Dau yr ochr yma, daw yr ochr drew.
Mae’r deyrnged hon i fynydd uchaf Cymru yn nodweddiadol o'i waith:
Mae y Wyddfa’n fynydd hynod o fawr,
Yn uwch ar y top nag a yw ar y llawr.
Bu'n byw ym Mhenyclip, fferm ger Ffordd Penclip (Druid Road). Credir mai bwthyn gweithwyr fferm oedd ei gartref, bellach yn rhan o dŷ o'r enw Ael y Bryn.
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Bedd Catherine a Catherine Jones
Mynwent Ynys Dysilio. Dyma fedd dwy fu’n drigolion ar Ynys Gorad Goch, a oedd yn enwog am drapiau pysgod. Bu farw’r Catherine Jones gyntaf yn 1865, yn 81 mlwydd oed. Bu farw’r ail un yn 1924, 73 oed, ac erbyn hynny yn byw yn Market Street, Caernarfon.
Enw’r ynys yn y Canol Oesoedd oedd Ynys Gored Madog Goch. Roedd hawl am y pysgod a ddaliwyd yma gan esgobion Bangor. Bu’r teulu Madoc yn byw fan hyn am sawl cenhedlaeth. Daeth yr ynys yn ‘Ynys Gorad Goch’. David Lloyd George, Chancellor of the Exchequer, visited Gorad Goch in 1910 for a whitebait dinner.
Tumblr media
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Bedd Thomas Hughes
Mynwent Ynys Dysilio. Cyn iddo farw yn 1890, bu Thomas Hughes yn un o’r masnachwyr mwyaf hirhoedlog yn yr ardal. Bu’n ddilledydd yn y dref am 43 o flynyddoedd. Yn ôl y sôn, Thomas Hughes gafodd y syniad o ymestyn enw Llanfair Pwllgwyngyll er mwyn creu’r enw hiraf yn Ewrop a denu ymwelwyr. Roedd yn byw uwchben ei siop, Oxford House, Porthaethwy. Bu farw yno, 64 mlwydd oed, wedi mis o waeledd.
Tumblr media Tumblr media
0 notes
gwagedd · 3 years
Text
Gŵyl Fihangel
Haf bach Mihangel Indian Summer
Braenar Mihangel Autumn fallow, Autumn ploughing for one crop
Un o'r 4 Diwrnod Chwarter traddodiadol;
Mawrth 25, Mehefin 24, Medi 29 (Gwyl Fihangel), Rhagfyr 25
In British and Irish tradition, the quarter days were the four dates in each year on which servants were hired, school terms started, and rents were due. They fell on four religious festivals roughly three months apart and close to the two solstices and two equinoxes.
Lady Day (25 March) Annunciation
Midsummer Day (24 June)
Michaelmas (29 September) St Michael's Day (Archangel)
Christmas (25 December)
Eglwysi Mihangel
Llanfihangel Dinsylwy
Llanfihangel Tre'r Beirdd
Llanfihangel Genau'r Glyn
Llanfihangel Glyn Myfyr
Llanfihangel Tal-y-llyn
Llanfihangel Troddi
Llanfihangel yng Ngwynfa
Llanfihangel y Pennant
0 notes
gwagedd · 4 years
Text
“Yr ydoedd ym mhob gobant Ellyllon mingeimion gant. There was in every hollow A hundred wrymouthed elves.”
— Dafydd ap Gwilym, 1340
27 notes · View notes
gwagedd · 4 years
Text
Locronan
Tumblr media
Pentref bach hudolus, cyniweiriol a chwbl ddiollwng. Yn ei gyfnodau tawel yn ystod misoedd y gaeaf nid oes iddo boblogaeth o lawer mwy nag wythgant er bod dwbl drebal na hynny yn heidio iddo yn yr haf. Daw Loc- o’r Lladin Locus; yn ôl pob tebyg am ‘fan cysegredig’; yn yr achos hwn, man cysegredig Ronan, y sant o Wyddel o’r seithfed ganrif y gorffwys ei weddillion yn Eglwys Le Pénity gerllaw.
Bu’r pentref yn enwog am gynhyrchu lliain hwyliau; heddiw, mae’n fwy adnabyddus am ei ŵyl mabsant, y Grande Troménie a’r orymdaith hir a gynhelir yno’n selog bob chwe blynedd. Lluestwyd y noson honno yng ngwesty Le Prieuré, er nad cyfleusterau moel a hunanymwadol yr asgetig oedd yn ein hanes yn y priordy hwnnw eithr moethusrwydd cymharol y gwesty serenog.
1 note · View note
gwagedd · 4 years
Text
Gwerfyl Mechain
Tumblr media
Bardd o Gymraes o Bowys a ganai yn ail hanner y 15fed ganrif oedd Gwerful Mechain neu Gwerful ferch Hywel Fychan (fl. c. 1460 - wedi 1502?). Y brydyddes o Fechain. Mae hi'n enwog am ei cherddi erotig beiddgar - sy'n enghreifftiau rhagorol o ganu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol - ac yn perthyn i ddosbarth prin o feirdd benywaidd yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Fel mae ei henw yn ei awgrymu, brodores o ardal Mechain ym Mhowys oedd Gwerful. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdani, ar wahân i dystiolaeth ei cherddi. Roedd hi'n ferch i Hywel Fychan a'i wraig Gwenhwyfar ferch Dafydd Llwyd. Roedd ei gor-hendaid Madog ab Einion yn uchelwr pwysig ym Mechain. Roedd ei thad, Hywel Fychan, yn byw yng nghwmwd Mechain Is Coed. Priododd Gwerful John ap Llywelyn Fychan a chafodd ddwy ferch o'r un enw ganddo (neu un ferch), sef Mawd. Yn ôl un traddodiad, roedd hi'n cadw tafarn. Cyfnod y beirdd; canu masweddol/masweddus.
Gwerful Mechain (1460–1502), is the only female medieval Welsh poet from whom a substantial body of work is known to have survived. She is known for her erotic poetry, in which she praised the vagina among other things. For medieval Europeans, talking openly about sex in what we might think of now as explicit detail was a very normal part of life. Although life in medieval Wales was hard, and both men and women were encouraged by the church to keep their lusts carefully contained for the sake of childbearing alone, Gwerful Mechain’s unbridled enjoyment of sex and her own body demonstrates the happiness and pleasure to be found in the simple act of physical love. Although less well known, Gwerful Mechain’s devout poetry on religious themes shows her acceptance of religious teachings.
7 notes · View notes
gwagedd · 4 years
Text
Rhys ap Thomas 1449-1525
Tumblr media
Rhys ap Nicholas Rhys ap Gruffydd Caerfyrddin canu caeth Arglwydd Rhys (Eisteddfod Aberteifi 1127) Rhys ap Thomas magwraeth Dinefwr ac Abermarlais Mab 4 oed yn wystl gan Richardd III Harri Tudur geni Pembroke, Lancaster 1 Aug 1485 glaniodd yn Dale Lie under Mullock Bridge so as not to break his word 'over my body' Aeth Harri Tudur I weld Dafydd o Fathafon Arthur wedi ei gladd yn Eglwys Caerwrangon Mab Gruffydd ap Rhys - bad behaviour
In the reign of Edward IV, Rhys organized a local military force in support of the King, but the next English king, Richard III, doubted Rhys’ allegiance. Richard could not know it, but his decision to demand that Rhys hand over his four-year old boy, Gruffydd, as a hostage probably cost him the Battle of Bosworth, his crown, and his life. Borrowing first sons was not an unknown ploy, designed to secure the continuing loyalty of a warlord, but Rhys took it badly. He got into touch with Henry Tudor who was then an exile in Brittany. There is little doubt that he promised to assist him and that, when Henry landed at Milford Haven, he used his great influence in his favour, though the story that he salved his conscience by allowing Henry to cross over his body while he crouched under Mullock Bridge, near Dale, must be taken as legendary. He joined the invading force near Welshpool with levies raised in the vale of Towy and was knighted for his services on the field of Bosworth (22 August 1485). Rhys is credited with being the man who killed Richard III on the battle field. The poet Guto’r Glyn (1412-1493), referring to King Richard’s emblem of a boar, wrote contemporaneously that Rhys “killed the boar, shaved his head”. In November of the same year he received other tokens of royal favour. Rhys was granted the offices of constable and steward of the lordship of Brecknock, chamberlain of the counties of Carmarthen and Cardigan, and steward of the lordship of Builth. He died in 1525 and was buried in Greyfriars church, Carmarthen. His body was later removed to S. Peters church; the tomb there was restored in 1865.
0 notes
gwagedd · 4 years
Text
Gwenllian ferch Gruffydd
Tumblr media
Cafodd Gwenllian ei geni yn Aberffraw tua 1100. Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, tywysog Deheubarth, oedd Gwenllian. Cyfunai felly Wynedd a Deheubarth trwy ei phriodas. Cafodd o chwech o blant: Morgan, Maelgwn, Anarawd (bu farw 1143), Cadell (bu farw 1175), Maredudd (bu farw 1155) a Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys, m. 1197). Cartref Gwenllian wedi iddi briodi oedd Castell Cydweli. Castell Dinefwr prif lys ei gwr. Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar glawr amdani tan ei blwyddyn olaf. Yn y flwyddyn 1136 bu farw Harri I, brenin Lloegr. Gwelai Gruffudd ap Cynan gyfle i adennill tir oddi ar y Normaniaid gan fanteisio ar y mewn-frwydro dros yr olyniaeth rhwng yr Ymerodres Matilda a Steffan, brenin Lloegr. Torrodd gwrthryfel allan yn y Deau ac aeth Gruffudd ap Rhys i Wynedd i gael cymorth ei dad-yng-nghyfraith, Gruffydd ap Cynan. Daeth Normaniaid. Cymerodd Gwenllian yr awennau yn Neheubarth yn abesenoldeb ei gŵr. Cododd hi fyddin. Yn ymyl Castell Cydweli yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng byddin o Gymry lleol dan Wenllian, a Maurice de Londres. Collodd y Cymry y dydd yn erbyn llu sylweddol a atgyfnerthwyd gan farchogion Normanaidd a anfonwyd gan rai eraill o arglwyddi'r Mers. Daliwyd y dywysoges ar faes y gad. Er gwaethaf y ffaith ei bod o waed brenhinol ac yn fam, cafodd ei dienyddio ar orchymyn y Normaniaid. Lladdwyd ei mab Morgan hefyd a chipiwyd mab arall Maelgwn. Cadeirlan Bangor yw man claddu Gruffudd ap Cynan, tad Gwenllian.
Gwenllian ferch Gruffydd (Gwenllian, daughter of Gruffydd; c. 1100 – 1136) was Princess consort of Deheubarth in Wales, and married to Gruffydd ap Rhys, Prince of Deheubarth. Gwenllian was the daughter of Gruffudd ap Cynan (1055–1137), Prince of Gwynedd and Angharad ferch Owain, and a member of the princely Aberffraw family of Gwynedd. While her husband was in Gwynedd seeking an alliance with her father against the Normans, the Normans led raids against her home, Kidwelly Castle. Gwenllian's "patriotic revolt" and subsequent death in battle contributed to the Great Revolt of 1136. There are several notable artistic depictions of Gwenllian, often depicting her with a sword in hand, or riding a chariot into battle in the style of Boudicca. She is sometimes confused with Gwenllian ferch Llywelyn, who lived two centuries later.
1 note · View note
gwagedd · 4 years
Text
Tomen y Mur
Tumblr media
Mae Tomen y Mur neu Mur y Castell yn safle caer Rufeinig a chastell o'r cyfnod Normanaidd yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH709384.
Saif Tomen y Mur ym mhen draw lôn fechan sy'n arwain i'r dwyrain oddi ar y briffordd A470 rhyw chwarter milltir i'r de o'r gyffordd gyda'r A487, i'r de-ddwyrain o bentref Gellilydan ac i'r gogledd o Drawsfynydd.
Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas 77 neu 78 OC. yn ystod ymgyrchoedd Agricola yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr Hadrian, tua 120 OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, Maentwrog. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr 2g. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys amffitheatr fechan, baddondy a mansio, gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a gellir gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys olion y bont lle roedd yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn, ychydig islaw Llyn yr Oerfel, oedd yn cyflenwi dŵr i'r gaer. Rhedai ffordd Rufeinig arall drosodd i Bennant-Lliw ac i gaer Rufeinig Caer Gai ger Llyn Tegid.
Mwnt y castell: Mae cyfeiriad at Domen y Mur, dan yr enw "Mur y Castell" yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn byw yno, wedi i Flodeuwedd gael ei chreu gan y dewin Gwydion fel gwraig i Lleu.
Tumblr media
4 notes · View notes
gwagedd · 4 years
Text
Sarn Helen
O Gaer Rhun (Canovium, caer rhufeinig, Afon Conwy?) i Gaerfyrddin (trwy Dolgellau, Dolweddelan) Am y gân o'r un enw gan y Super Furry Animals, gweler Mwng. Defnyddir yr enw Sarn Helen, neu weithiau Sarn Elen, am y ffordd Rufeinig oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Cymru o gaer Canovium (Caerhun) yn y gogledd hyd gaer a thref Maridunum (Caerfyrddin) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl gadael Caerhun, ond credir ei bod yn dilyn glan orllewinol Afon Conwy cyn belled â Threfriw, lle mae'n rhannu. Mae'r brif fforch yn arwain dros y bryniau i Betws y Coed, tra mae'r llall yn arwain ar gaer fechan Caer Llugwy. Gellir gweld rhai olion o'r brif ffordd wedi iddi rydio Afon Llugwy, yn dringo dros y bryniau tua Dolwyddelan. Mae'n rhedeg ar hyd Cwm Penamnen a heibio rhan uchaf Cwm Penmachno. Gerllaw Ffestiniog mae'r ffordd i'w gweld yn eglur am dros ddwy filltir wrth arwain tuag at gaer Tomen y Mur.
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio Trawsfynydd. Mae'n debygol ei bod yn pasio'n agos i safle'r gar fechan yn y Brithdir, ger Dolgellau, sy'n sefyll ar y ffordd Rufeinig i/o Gaer Gai, ger Llyn Tegid, a Chaer. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol Cadair Idris nes cyrraedd caer fechan Pennal. Efallai fod rhan o'r lein bach rhwng Aberllefenni a Maespoeth yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig.
Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref Lledrod yn Sir Aberteifi, ar ei ffordd tua'r gaer yn Llanio. Yn Llanfair Clydogau mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio Llanymddyfri a Dolaucothi i Nidum (Castell Nedd), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
Pwy oedd Helen?
Gwraig Magnus Maximus? Mae son bod gan Magnus Maximus wraig o Brydain.
Catrawd o filwyr Rhufeinig yn Croatia Segontiensis? Oes linc yna? Aeth Magnus Maximus â’i fyddin draw i Ffrainc. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ac ar ôl hynny fe'i lladdwyd gan Facsen mewn brwydr yn Lyons ar 25 Awst 383. Magnus Maximus (Latin: Flavius Magnus Maximus Augustus, Welsh: Macsen Wledig) (c. 335—August 28, 388) was Western Roman Emperor from 383 to 388. In 383, as commander of Britain, he usurped the throne of emperor Gratian, and by negotiation with emperor Theodosius I, he was made emperor in Britannia and Gaul the next year while Gratian's brother Valentinian II retained Italy, Pannonia, Hispania, and Africa. In 387, Maximus' ambitions led him to invade Italy, resulting in his defeat by Theodosius I at the Battle of the Save in 388. In the view of some historians, his death marked the end of direct imperial presence in Northern Gaul and Britain.
Welsh legend Legendary versions of Maximus' career in which he marries the Welsh princess Elen may have circulated in popular tradition in Welsh-speaking areas from an early date. Although the story of Helen and Maximus's meeting is almost certainly fictional, there is some evidence for the basic claims. He is certainly given a prominent place in the earliest version of the Welsh Triads which are believed to date from c. 1100 and which reflect far older traditions. Welsh poetry also frequently refers to Macsen as a figure of comparison with later Welsh leaders. These legends come down to us in two separate versions.
Elen Luyddog Cymeriad yn y chwedl Breuddwyd Macsen Wledig yw Elen Luyddog. Mae Macsen Wledig, Ymerawdwr Rhufain, yn breuddwydio ei fod yn teithio i ogledd-orllewin Ynys Brydain, lle mae'n gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Aiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae gwyddbwyll a'r forwyn 'decaf erioed' yn eistedd ar 'orsedd orwych'. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu.
Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad Eudaf a'i brodyr Cynan (Cynan Meiriadog) ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon (Segontium).
Erys Macsen i ffwrdd o Rufain am dros saith mlynedd, ac erbyn iddo ddychweld gyda Elen, mae ymerawdwr newydd wedi cymeryd ei le. Mae Macsen yn gwarchae dinas Rhufain am flwyddyn, yn aflwyddianus, nes daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr Arfon i gipio'r ddinas a'i hadfer i Facsen. Yn ddiolchgar iddynt, mae Macsen yn caniatau iddynt grwydro a goresgyn tir fel y mynnant. Ar ôl blynyddoedd o grwydro ar y cyfandir cyrhaeddant Lydaw. Mae hanner y llu'n dychwelyd i Gymru gydag Adeon a'r lleill yn aros yn Llydaw dan Cynan. Cyfeirir at y traddodiad mewn un o'r Trioedd fel un o'r "Tri Chyfor a aeth o'r ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt".
Yn ôl y chwedl, ar ôl Elen yr enwyd y ffordd Rufeinig Sarn Helen. Cred rhai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli sofraniaeth Ynys Brydain a'i bod hefyd yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef Elen Luyddog ac Elen ferch Eudaf. Credir mai Helena, mam yr ymerawdwr Cystennin Fawr (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes Elen o Gaerdroia wedi lliwio dychymyg y cyfarwydd (chwedleuwr) o Gymro hefyd.
Santes Helen a lot o hen saint a'u gwreiddiau yn ol yr hen grefydd. Oedd y Rhufeiniaid yn adeiladu ar sylfeini'r hen Celtiaid? Sylfeini cyn-Rhufeinig?
Tumblr media
1 note · View note