Mewn Anwybod – golwg ar waith T.H. Parry-Williams
Traddodwyd y ddarlith hon fel rhan o raglen ddarlithoedd Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau, Dinbych ddiwedd Ebrill 2018
Mi ddes i ar draws gwaith T.H. Parry-Williams go iawn pan ôn i’n 16, yn ystod y cyfnod ansefydlog hwnnw pan dych chi ddim yn blentyn nac yn oedolyn chwaith. I’r rhan fwyaf ohonon ni mae’n adeg o ansicrwydd ac o droedio’r ffin rhwng dau fyd. Yn hanesyddol mewn cymdeithasau traddodiadol mae’na ddefodau clir, dychrynllyd weithiau, er mwyn cynorthwyo’r person ifanc i adael y cyfnod ansicr hwn a symud ymlaen a dod yn oedolyn cyflawn. Y dyddiau hyn dyn ni yn y Gorllewin ddim yn gorfodi’n pobl ifainc i ddioddef seremonïau dyfod i oed brawychus (oni bai eich bod chi’n digwydd ystyried pethau fel proms yn artaith emosiynol) ac o’r herwydd mae pethau’n fwy annelwig yn y byd modern. Mi wnes i ddarllen yn ddiweddar fod rhai cymdeithasegwyr hyd yn oed yn dadlau fod yr arddegau, oherwydd newidiadau yn ein ffordd o fyw, bellach wedi ymestyn ac yn parhau tan ryw 24.
Petai rhaid i ddyn orfod dewis cydymaith llenyddol Cymraeg ar gyfer y tir neb hwnnw rhwng bod yn blentyn a bod yn oedolyn i mi y dewis delfrydol fyddai T.H. Parry-Willams. Mae ei waith cyhoeddedig yn frith o gyfeiriadau at ffiniau a bylchau, ac at bethau a safbwyntiau hylifol sydd ddim yn gyfangwbl y naill beth na’r llall – yn
“Hanner a hanner heb ddim yn iawn
Heb ddim yn ei grynswth na dim yn llawn.”
Yn wir mi allen ni ddadlau mai’r geiriau pwysicaf oll yng ngwaith T.H. Parry-Williams yw geiriau megis ‘rhwng’, ‘ond’, ‘ac eto’ neu jest ‘na’ .
Erbyn hyn dw i dros fy nhrigain ac yn teimlo weithiau bron fel oedolyn. Ond mae gwaith T.H. Parry-Williams yn dal i fy nenu oherwydd y lle canolog sy’n cael ei roi ynddo i ansicrwydd, amhendantrwydd ac ‘anwybod’, chwedl yntau, nid fel ystadau meddyliol dros dros dro neu ddiffygion gwybyddol y gellid eu cywiro rywbryd yn y dyfodol ond fel nodweddion craidd y profiad dynol.
Os ydyn ni am ddeall ymlyniad diwyro T.H. Parry-Williams wrth y nodweddion hylifol ac amhendant hyn byddai’n werthfawr i ni’n hatgoffa’n hunain o rai o’r daeargrynfeydd deallusol a ysigodd y byd modern ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed.
Charles Darwin ar ddiwedd ei oes
Roedd Charles Darwin ac Alfred Russell Wallace wedi dangos nad oedd dyn yn ddim byd amgenach na nag un enghraifft arall o’r broses esblygiadol ddi-ragluniaeth sy’n cael ei gyrru gan ddetholiad naturiol. Fel y nodwyd gan E. Tegla Davies yn ei hunangofiant Gyda’r Blynyddoedd roedd y feirniadaeth fodern wedi tanseilio Cristnogaeth ffwndamentalaidd oes ei rieni, rhywbeth a greodd gryn loes i’r T.H. Parry-Williams ifanc. Ac ym myd ffiseg roedd meddylwyr mentrus megis Einstein a Niels Bohr wedi llwyr chwyldroi ein dealltwriaeth o’r byd ffisegol gyda Damcaniaeth Perthnasedd ar y naill law a Mecaneg Cwantwm ar y llall. Nid lleihau ansicrwydd, amhendantrwydd ac ‘anwybod’ wnaeth y darganfyddiadau hyn, fodd bynnag, ond ychwanegu atyn nhw. Yn wir dangosodd Werner Heisenberg trwy ei Egwyddor Ansicrwydd fod ansicrwydd, amhendantrwydd ac anwybod yn nodweddion oedd wedi’u plethu i mewn i wead y byd cwantwm.
Mae’n ddiddorol nodi fod Niels Bohr, wrth ddewis arfbais academaidd iddo’i hun pan anrhydeddwyd o gydag aelodaeth o Urdd Yr Eliffant gan goron Denmarc ym 1947, wedi dewis cynnwys yn y canol y symbol Tai Chi, symbol sy’n tanlinellu hylifedd y cosmos wedi’i reoli gan ryngweithiad dau rym cyferbyniol ond cydweithredol y Yin a’r Yang. Uwchben y symbol cynhwysodd y geiriau Contraria sunt complementa. Roedd y weithred hon yn brawf o’r dylanwad cynyddol roedd syniadau Dwyreinol megis Taoistiaeth a Bwdistiaeth yn eu cael ar feysydd mor wahanol â Ffiseg a Seicoleg y cyfnod.
Ryw flwyddyn yn ôl darllenais erthygl ymfflamychol iawn ar y we yn dwyn y teitl The Taoist Perversion of Twenieth Century Science oedd yn bytheirio yn erbyn y modd yr oedd gwyddonwyr a meddylwyr megis Niels Bohr, Wolfgang Pauli, Joseph Needham a’r athronydd a’r ymgyrchydd heddwch Bertrand Russell wedi llurgunio’r traddodiad gwyddonol gorllewinol trwy gofleidio syniadau Taoistaidd. Wrth ladd ar Niels Bohr a’i debyg mae’r awdur Michael Billington yn taflu’r bai mwyaf ar Bertrand Russell.
“In each case, the gnostic, Taoist views of these men can be traced to Bertrand Russell, considered by many to be the most evil man of the Twentieth Century.”
Yn bersonol, byddwn i wedi cynnig enw ambell gymeriad arall ar gyfer y teitl hwnnw ond mae’r dyfyniad o leiaf yn tanlinellu’r dylanwad a fu ar faes gwyddoniaeth gan syniadau dwyreiniol.
Digwydd bod roedd gan Niels Bohr gysylltiad clós â Gogledd Cymru oherwydd y cydweithio a fu rhyngddo fo â dau wyddonydd Cymreig, sef William Ewart Williams o Rostryfan ac Edwin Augustine Owen o Flaenau Ffestiniog. Bu’n gyfaill i Edwin Owen tan ei farwolaeth a daeth ar ymweliad i Ogledd Cymru un tro o leiaf.
Roedd T. H. Parry-Williams ei hun yn hyddysg iawn yn y gwyddorau ffisegol arloesol ac mae’n ymdrin â nhw mewn ysgrifau megis Samarkand, Darnau, Pendraphendod a Mr.Tomkins a Minnau. Mewn dwy o’r ysgrifau hyn mae’n disgrifio’i hun fel “ffisegolwr bach ymofyngar”. Yn Samarkand mae o hefyd yn tanlinellu’r cyswllt rhwng datblygiadau ym maes ffiseg a Bwdïaeth (“y grefydd fawr honno”, fel mae’n ei galw). Mae’r ysgrifau hyn yn ddadlennol iawn gan eu bod, yn ogystal â thanlinellu diddordeb byw iawn T.H. Parry Williams yn natblygiadau astrus ffiseg fodern, yn bwysicach fyth yn cael eu defnyddio ganddo i gefnogi ei safbwynt parthed anwybodawyedd sylfaenol bywyd.
Dyma sut mae T.H. Parry Williams yn gorffen ei ysgrif Samarkand;
“A’r cyfan a wnaf fydd codi dau osodiad bach o waith James Elroy Flecker (awdur sydd bron wedi mynd yn angof) a gadael i’r geiriau ddweud eu neges yn dawel. Yn y ddrama Hassan y maent yn digwydd, drama sy’n sôn am antur y Pererinion o Baghdad ar ryw “siwrnai aur”. Ishak y minstrel sy’n llefaru :
We are the Pilgrims, Master, we shall go
Always a little further; ....
Ac ymhellach ymlaen y mae’n mynegi hyn ;
For lust of knowing what should not be known
We take the Golden Road to Samarkand.
Geiriau herfeiddiol, rhyfygus bron. Ond beth petaem ni’n newid un gair bychan i weld a fydd rhywfaint o wirionedd tragwyddol yn y dyfyniad wedyn, i godi calon y ffisegwyr mentrus hyn, neu efallai i’w thorri :
For lust of knowing what can not be known
We take the Golden Road to Samarkand.
Ond na hidier. “It’s fun” medd un gwyddonydd mawr o’r Amerig.”
Mewn ysgrif arall, Dyfed, ar ôl trafod y profiad rhyfedd a gafodd un tro gyda hen faen cyntefig pan gollodd ei ffordd yn gyfangwbl mae’n cyfeirio’n benodol at yr anwybodawyedd sydd yn ganolog i epistemeg.
“Dyfed, Dyfed. Y mae hud ar y wlad o hyd, mi wrantaf, ac nid yw peth felly’n gweddu i’r oes hon. Wrth geisio f’amddiffyn fy hun, fy unig ddadl yw bod y gwyddonwyr yn haeru mai “termau perthynasol” yw dwyrain a gorllewin wedi’r cwbl : cyfeiriadau ac ni d“reolaethau” ydynt. Ac wrth gofio am y maen bod-a-pheidio hwnnw, byddaf yn ymgysuro trwy ddweud wrthyf fy hun yn nullwedd yr athronwyr nad yw hyd yn oed epistemeg yn gallu penderfynu’n sicr seiliau gwybodaeth am yr hyn sy’n cyfansoddi’r gwahaniaeth rhwng natur bod a difod.”
Mae anwybodadwyedd pethau yn cael lle amlwg hefyd yn un o gerddi pwysicaf T.H. Parry-Williams sef I’m Hynafiaid, cerdd o orfoledd gorchfygol sydd, oherwydd ei ddefnydd o’r gair ‘dyheu’ yn ein hatgoffa o ddadl sylfaenol Bwdïaeth mai’r hyn sydd wrth wraidd dioddefaint dirfodol y ddynolryw (yn ôl cyfieithiadau Gorllewinol o rai o’r ysgrythurau Bwdïaidd, o leiaf) yw ‘dyheu’. Dylid nodi wrth fynd heibio, fodd bynnag, nad yw’r dyfyniadau lu a geid ac a geir yn y Gorllewin o eiriau’r Bwda bob tro’n llythrennol gywir. Chwilwch am ‘Desire is the root of all suffering’ ar Google ac mi gewch lwythi ohonyn nhw. Fel y nododd T.H. Parry Williams ei hun un tro, fodd bynnag, ddylen ni ddim credu pob dim dyn ni’n ei ddarllen ar y we. Ta waeth, dyma’r gerdd yn ei chyfanrwydd.
I 'm Hynafiaid
1
Diau mai prin oedd eich grasusau chwi
Na throsglwyddasoch odid ddim i mi.
Ni chefais gennych lawnder manna a medd,
Dim ond gweddillion megis gwedi gwledd.
Ni chefais dwymyn un diddanwch pur,
Dim ond gogleisisad bob yn ail â chur.
Ni chefais lif pen-llanw nwyd ar dro,
Dim ond rhyw don fach bitw ar y gro.
Ni chefais win cyforiog unrhyw ddawn,
Dim ond rhyw jóch o gwpan hanner llawn.
Ni chefais sadrwydd barn yn waddol drud,
Dim ond ymennydd sydd yn rhemp i gyd.
Ond diolch byth, er lleied a roed im,
Nid ydwyf yn dyheu am odid ddim.
2.
Na. Chwarae teg i chwithau, cefais i
Hen grefydd y mynyddoedd gennych chwi.
Mi gefais gennych greigiau dan fy nhraed,
A'u holl ddoethineb bagan yn fy ngwaed.
Mi gefais gennych gred trwy'r hil i lawr
Mai trech na dysg yw dwyster munud awr.
Mi gefais nerth o fer eich esgyrn chwi
I goelio, dro, fod un ac un yn dri.
Mi gefais gennych ras o ffynnon bell
I ganfod nad yw gwaeth fawr gwaeth na gwell.
Mi gefais gennych fodd i synio'n glir
Mai mewn anwybod y mae nef yn wir.
A dyna pam, gan gymaint a roed im,
Nad ydwyf yn dyheu am odid ddim.
Roedd chwyldroadau mawr wedi digwydd hefyd ym maes cosmoleg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ym 1920 cynhaliwyd yr hyn a alwyd ‘Y Ddadl Fawr’ rhwng Harlow Shapely a Heber Curtis i drafod maint y bydysawd ac, yn benodol, a oedd nebiwlae troellog, pell yn gorwedd o fewn ein galaeth ni neu a oedden nhw’n alaethau annibynnol. Roedd Shapely o’r farn mai ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog, oedd y bydysawd ond roedd Curtis ar y llaw arall yn grediniol fod y nebiwlae hyn yn alaethau neu’n ‘ynys-fydysawdau’ cwbl ar wahân. Yna, ym 1924 profodd Edwin Hubble yn bendant fod ein galaeth ni ond yn un galaeth ymhlith dau driliwn o bosib o alaethau. Dros nos felly, bron, daethpwyd i sylweddoli bod y bydysawd yn aruthrol fwy na’r hyn a dybid ynghynt a bod y ddaear, o’r herwydd, yn llawer llai canolog i drefn y cread.
https://www.youtube.com/watch?v=O57DyNMRGY8
Llun o filoedd o alaethau gan delesgôp Hubble a enwyd ar ôl y seryddwr enwog
Mae dylanwad y darganfyddiad hwn i’w weld yn amlwg ar un arall o gerddi creiddiol Parry-Williams sef ‘Dychwelyd’, cerdd sydd hefyd, o bosib, yn cyfeirio at y darlun o realiti a oedd yn deillio o faes Ffiseg Cwantwm. Wna i ddarllen y gerdd i gychwyn ac wedyn ddyfyniad o lyfr Almaeneg sy’n ceisio esbonio’r byd cwantwm (a dw i’n cadw at y cyfieithiad Saesneg swyddogol) a diffiniad a geir ar wefan darlithydd yn adran Ffiseg Prifysgol Caergrawnt. Cewch chi benderfynu a oes cysylltiad rhwng yr hyn a ddisgrifir yn y gerdd a’r darlun o’r byd cwantwm.
Dychwelyd
Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith,
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn,
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
Dyma’r dyfyniad o’r llyfr Almaeneg (iaith yr oedd T.H. Parry-Williams yn hyddysg iawn ynddi, cofier) :
“Modern theoretical physics …… has put our thinking about the essence of matter in a different context. It has taken our gaze from the visible – the particles – to the underlying entity, the field. The presence of matter is merely a disturbance of the perfect state of the field at that place; something accidental, one could almost say, merely a ‘blemish’….Order and symmetry must be sought in the underlying field.”
A dyma’r dyfyniad o’r wefan :
“Every particle (in) your body – indeed, every particle in the universe – is a tiny ripple of the underlying field, moulded into a particle by the machinery of quantum mechanics.”
Mae’n bwysig nodi hefyd mai Almaeneg oedd prif iaith Ffiseg tan bumdegau’r ganrif ddiwethaf ac roedd cyrsiau prifysgol yng Ngwledydd Prydain yn aml yn cynnig gwersi Almaeneg teilwriedig i efrydwyr ffiseg. Roedd T.H. Parry-Williams ei hun, wrth gwrs, yn hollol rugl yn yr iaith ac wedi astudio ym Mhrifysgol Freiburg. Bu hyd yn oed yn cadw dyddiadur yn yr iaith Almaeneg ym 1917 pan oedd o wrthi’n gweithio ar fferm ei gefnder, Wil Oerddwr, gweithred herfeiddiol iawn o ystyried y berthynas rhwng Prydain a’r Almaen ar y pryd.
Os oedd T.H.Parry-Williams yn hyddysg yn y wyddoniaeth oedd yn trafod y byd allanol roedd ganddo hefyd ddiddordeb byw iawn, ysol hyd yn oed, yn y darganfyddiadau hynny oedd yn ymwneud â’n byd mewnol ac yn enwedig yr anwybodadwyedd oedd yn nodweddu’r byd hwnnw. Mae’n hysbys fod T.H.Parry Williams wedi mynychu darlithoedd ar seicoleg pan oedd yn y brifysgol yn Freiburg a pharhaodd i ymddiddori yn y pwnc trwy gydol ei fywyd.
Sigmund Freud a’i sigâr enwog
Rhwng degawdau olaf y C19eg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif dadleuodd ffigyrau megis William James, Sigmund Freud, Carl Jung ac eraill fod prif ffrwd ein prosesau meddyliol wedi’u seilio ar weithgaredd rhan o’r ymennydd a oedd yn gweithio’n y dirgel, sef yr isymwybod neu’r anymwybod. Roedd gwahaniaethau mawr rhwng eu fersiynau gwahanol o’r hyn yw’r is neu’r anymwybod ond yr hyn oedd yn gyffredin i’r syniadau oll oedd y sylweddoliad ein bod ni fel unigolion i raddau helaeth yn cerdded ‘ar ddiarwybod droed’.
A bod yn fanwl gywir dylem ddisgrifio’r darganfyddiadau modern ynglŷn â natur y meddwl dynol fel ail-ddarganfyddiadau. Yn ôl Guy Claxton yn ei lyfr Noises from the Darkroom cyn i Rene Descartes droi’r drol gyda’i Cogito Ergo Sum, oedd yn dyrchafu’r meddwl ymwybodol ac yn alltudio’r isymwybod, roedd pobl yn gyffredinol yn derbyn fod y rhan fwyaf o’n prosesau meddyliol y tu hwnt i’n dirnadaeth.
“Nid yw absenoldeb sylw ymwybodol yn brawf o absenoldeb gweithgaredd meddyliol” meddai Plotinus yr athronydd o’r drydedd ganrif gan ychwanegu “gall teimladau fod yn bresennol heb ymwybyddiaeth ohonynt”.
Yna, yn y bedwaredd ganrif ysgirfennodd Awstin Sant :
“Ni allaf ddirnad yn llwyr y cyfan o’r hyn yr ydwyf .....mae’r meddwl yn rhy gul i gynnwys ei hun.”
A mil o flynyddoedd yn ddiweddarach dadleuodd Sant Thomas Aquinas fod
“prosesau yn yr enaid nad ydym yn ebrwydd ym ymwybodol ohonynt”.
Mae gwaith William Shakespeare yn frith o gyfeiriadau at annirnadwyedd y meddwl dynol ond mae un dyfyniad yn ddigon i danlinellu hyn sef hwn a geir ar ddechrau’r Merchant of Venice.
“In sooth, I know not why I am so sad:
It wearies me; you say it wearies you;
But how I caught it, found it, or came by it,
What stuff ‘tis made of, whereof it is born,
I am to learn;
And such a want-wit sadness makes of me,
That I have much ado to know myself.”
Mae hyn yn f’atgoffa i o’r rhagymadrodd i’r gerdd Dwy Gerdd o’r gyfrol Cerddi ‘sy’n tywyll sôn’, medd T.H. Parry-Williams
“am beth a ddaeth
I’m dirnad, unwaith ac a aeth.
Ni wn beth ydoedd - a pha waeth.”
Cyn symud ymlaen i drafod cyfeiriadau T. H. Parry-Williams at yr isymwybod a haenau anwybodadwy o’r meddwl dynol dylwn yn gyntaf ddiffinio’r hyn rwyf yn ei olygu gan y term ‘Isymwybod’ gan fod cymaint o wahaniaethau rhwng fersiynau Freud, Jung, Adler ac eraill o’r hyn yw’r isymwybod neu’r anymwybod. Yn gyffredinol byddaf yn defnyddio’r term Isymwybod i olygu’r prosesu meddyliol hwnnw sydd y tu allan i ffocws ein hymwybyddiaeth. Oherwydd y dryswch rhwng y gwahanol fodelau o’r isymwybod roedd y Dr. Georgi Lozanov, y seicolegydd o Fwlgaria a chrëwr y dull Dad-Awgrymeg a ddefnyddir gan Popeth Cymraeg ac a ddefnyddiwyd ar y rhaglenni Cariad@iaith, wedi dewis defnyddio’r term ‘paraymwybodol’ i ddisgrifio’r clwstwr hwn o brosesau sef – y tu allan i ymwybyddiaeth. Mi allwn innau fod wedi defnyddio’r term hwnnw hefyd serch ei fod braidd yn anghyfarwydd ac efallai’n awgrymu prosesau paranormal ac nid dyna fy mwriad.
I ninnau heddiw yn oes marchnata soffistigedig sy’n fwriadol yn ceisio dylanwadu ar ein hymddygiad masnachol a gwleidyddol yn ddiarwybod i ni dyw’r syniad o brosesu meddyliol anymwybodol ddim mor chwyldroadol ag yr oedd ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae seicolegwyr a niwrolegwyr di-rif wedi dangos erbyn hyn mai prosesu anymwybodol yw’r norm ym myd natur ac mai datblygiad prin iawn yw prosesu ymwybodol. Mae rhai’n dadlau hyd yn oed mai sgil-effaith damweiniol, o bosib, yw ymwybyddiaeth, yn enwedig hunan ymwybyddiaeth, sydd ddim wir yn cyflawni fawr o ddim, os o gwbl. I’r sawl sy’n coleddu’r safbwynt hwn dyw ymwybyddiaeth yn ddim byd amgenach nag epiphenomenwm, rhywbeth tebyg i’r sŵn y mae chwiban trên stêm yn ei gynhyrchu pan fo’r stêm yn cael ei yrru allan o’r boilyr. Dyw’r chwibanu ddim yn gyrru’r trên,yn hytrach mae’n ganlyniad i weithgaredd mecanyddol y trên.
Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif y gred boblogaidd, gyffredinol oedd fod pobl yn gwneud penderfyniadau ymwybodol ac wedyn yn gweithredu ar sail y penderfyniadau hynny. Er gwaethaf astudiaethau rhif y gwlith sy’n dangos nad felly dyn ni’n gweithredu, mewn gwirionedd, a’n bod ni, yn hytrach, yn gwneud penderfyniadau ar sail emosiynau a rhagfarnau cudd ac ond yn defnyddio rhesymeg i gyfiawnhau’r penderfyniadau hynny i ni’n hunain mae’r gred hon yn dal i gael ei choleddu gan y cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n greiddiol hefyd i’n system gyfreithiol o hyd, wrth gwrs. Heblaw am mewn achosion anarferol iawn pan fydd troseddwr yn amlwg yn dioddef o anhwylder meddyliol, fyddai amddiffyniad ar sail y ddadl nad y troseddwr fel unigolyn oedd yn gyfrifol am yr ymddygiad troseddol ond ei isymwybod ddim yn cael ei dderbyn fel amddiffyniad dilys.
Daeth T.H.Parry-Williams i aeddfedrwydd fel llenor, felly, pan oedd yr hen sicrwydd yn y byd allanol, y byd mewnol a’r byd ysbrydol yn gwegian. “Gwae ni ein geni mewn oes mor dreng” meddai Hedd Wyn “a Duw ar drai ar orwel pell”. Neu yng ngeiriau T.H. Parry-Williams ei hun :“Gwae ni ein dodi ar dipyn byd / Ynghrog mewn ehangder sy’n gam i gyd”
Mae’n hysbys fod y cyfnod o gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen wedi bod yn un cythryblus iawn i T. H. Parry-Williams ar lefel bersonol, yn enwedig oherwydd y sen a’r beirniadu a fu arno oherwydd ei safbwynt tuag at y rhyfel hwnnw pan ddewisodd fod yn wrthwynebydd cydwybodol. Yr hyn sy’n bwysig ei nodi, fodd bynnag, yw ei fod wedi ceisio ymdopi â’r cythrwfl mewnol hwn trwy osod ei feddyliau ar bapur a bod y broses hon o drin geiriau wedi bod yn fodd iddo gael cip (ond nid dealltwriaeth trylwyr, sylwer) ar ei anian o ei hun, fel yr esbonia yn y gerdd Geiriau.
Geiriau
Ni wn, yn wir, pa hawl a roed i mi
I chwarae campau â’ch hanfodau chwi,
A’ch trin a’ch trafod fel y deuai’r chwiw,
A throi a throsi’ch gogoniannau gwiw;
Ond wrth ymyrraeth â chwi oll ac un
Mi gefais gip ar f’anian i fy hun.
Roedd hyn yn debyg iawn i’r hyn wnaeth Jung pan gyfansoddodd ei Lyfr Coch yn ystod cyfnod cythryblus iawn yn ei hanes yntau ac mae’n ein hatgoffa hefyd o eiriau (tafod ym moch, mae’n debyg) y nofelydd E.M. Foster :
“How do I know what I think until I see what I say?”
I mi gellid rhannu myfyrdodau T. H. Parry-Williams ynglŷn â’r meddwl dynol yn ddau hanner sef myfyrdodau ynglŷn â chymhellion ac ymddygiad pobl eraill a myfyrdodau ynglŷn â’i anian o ei hun. O safbwynt deall cymhellion ac ymddygiad pobl eraill mae’n nodi mewn sawl man yn ei waith ei fod o wedi datblygu’r gallu i weld trwy pobl yn hawdd.
Ar ddechrau ei ysgrif Cydwybod mae’n cyfeirio at y gynneddf anniddan sydd gan ambell un
“i weld trwy ei gyd-ddyn, canfod triciau ei feddwl ac ystyr ystumiau ei ymarweddiad, a gwybod beth sydd y tu ôl i’w ben o hyd, ac yntau’n meddwl ei fod yn diniwed dwyllo ac yn ymguddio trwy’r adeg. Y mae’r gynneddf hon gan ambell un oherwydd ei fod, ysywaeth, yn ei adnabod ei hun ac wedi mentro dadansoddi tipyn ar y greddfau a’r tueddiadau a’r anwydau sydd wedi cordeddu i wead ei fod a’i fyw ef ei hun. Hen beth digon cas ydyw,ond pur gyfleus a diddorol weithiau, y treiddio hwn trwy dwyll cyffredin y dyn cyffredin yn gyffredinol. Onid mân dwyllo ydyw deuparth ein byw beunyddiol?”
Yn ei ysgrif Gair o Brofiad wedyn mae rhyw hen ŵr anhysbys yn dad-berfeddu Parry Williams yn seicolegol ac yn dweud pethau fel hyn wrtho :
“Ond fe fyddai’n enllibiol ddadlennol o beth petaem yn gwybod ac yn mynegi’r hyn yw gwir feddyliau a barnau pobl. Yn wir, y mae’n bosib gwneud gès go lew, a byddaf i, fel tithau, yn gweld y tu ôl i benglogau pobl pan fyddant yn traethu, ac yn gwybod yn sicr pa beth yw’r gwir gynnwys sydd yno a pha beth yw’r cymhellion sy’n brydio yn y fan honno. Nid tuedd afiach i amau pawb a phopeth yw peth fel hyn, cofia, ond cynneddf iach – ddigon annifyr – i ddehongli ymadroddion a gweithredoedd dynion. A chyda profiad y mae’r dehongli’n mynd yn haws wrth i ddyn fynd yn hŷn............... Nid mewn ysbryd dig oherwydd unrhyw dro cas arbennig gan neb yr wyf yn mynegi hyn oll wrthyt, ond fel profiad oer a di-nwyd; ac y mae pawb sy’n onest lygad-agored yn gorfod credu’r peth, mai geudab, ffalster, twyll a chelwydd – pydredd yr enaid – sydd fwyaf ei rym yng ngweithgareddau dynion.”
Pan ddaw hi at ddeall ei anian ei hun, fodd bynnag, mae ei ddadansoddiad yn llawer llai pendant. Yn wir mae ei ddatganiadau am ei fydysawd mewnol yn tanlinellu’r ffaith fod yr hyn sy’n digwydd o dan ei fonet ei hun (yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd o dan fonet JC3636) yn anwybodadwy.
Y gerdd enwocaf o’i eiddo i drafod hyn yw Dryswch, cerdd fodern iawn ei thestun o ystyried safbwynt y gwyddorau meddyliol bellach ynglŷn â rhithioldeb yr hunan dynol. Dyma hi i chi.
Dryswch
Mae amryw byd ohonom yn fy nghlai,
Blithdraphlith oddi mewn, pob un â’i gri,
Pob un â’i rinwedd a phob un â’i fai.
Dieithriaid ydym ôll, - eto myfi.
Rhagor nid oes rhwng rhinwedd un a’i fai.
Ymysg y tryblith nid adwaenir cri.
Mae amryw byd ohonom yn fy nghlai.
Myfi ŷnt oll, - ac eto nid myfi.
Mae’r un math o syniad wedi’i fynegi gan awduron eraill. Dyna ddyfyniad enwog Walt Whitman allan o Song of Myself
“Do I contradict myself? Very well, then, I contradict myself; I am large -- I contain multitudes.”
a chyfaddefiad Virginia Wolf yn Orlando
”A biography is considered complete if it merely accounts for six or seven selves, whereas a person may well have as many as a thousand.”
Mae’n ddiddorol sylwi fod y gerdd Dryswch uchod wedi’i hepgor o’r Detholiad o Gerddi a gyhoeddwyd yn enw T.H. Parry-Williams ei hun ym 1972, ynghyd ag ychydig o gerddi ‘seicolegol’ eraill megis y tywyll Dwy Gerdd y cyfeiriwyd ati eisoes ac Ymennydd. Roedd hynny’n benderfyniad arwyddocaol o ystyried natur eiconig y cerddi hyn. Wedi’r cyfan roedd John Gwilym Jones wedi benthyg llinell olaf y gerdd Dryswch fel teitl ar gyfer Ac eto Nid Myfi, ei ddrama fawr seicolegol yntau. Beth bynnag y rheswm am yr hepgor bydd darllenwyr newydd sydd ond yn darllen detholiad 1972 yn hytrach na’r cyfrolau gwreiddiol yn cael golwg llai tywyll a llai treiddgar, o bosib, o deithi meddwl hanesyddol T.H. Parry-Williams.
Un o’r ysgrifau sy’n rhoi’r sylw mwyaf i anwybodadwyedd ei fyd mewnol yw ‘Yr Efe’ (sydd yn ein hatgoffa o’r term Das Es – yr Id / the It - a luniwyd gan Sigmund Freud i ddynodi rhan gyntefig, afreolus y psyche dynol). Ar ôl esbonio sut y daeth o a’i gyfoedion i ddefnyddio’r ymadrodd anramadegol hwn ‘Yr Efe’ oherwydd eu magwraeth Feiblaidd i olygu “be’ chi’n galw” neu “thingamijig” mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio digwyddiad brawychus pan gollodd reolaeth o’i gar gan bron â phlymio dros ochr dibyn serth. Yr hyn sy’n berthnasol i’r drafodaeth hon yw’r ffaith fod T.H. Parry-Williams yn cydnabod ar ddiwedd yr ysgrif fod ei ddefnydd o’r gair yn tanlinellu ei anallu i adnabod a deall haenau ohono fo ei hun a threfn y cread.
“Un o wifrau'r clawdd - a honno'n dynn hyd at dorri - oedd yr unig beth erbyn hyn a'i rhwystrai rhag rowlio bendramwnwgl i'r gwaelod, a minnau gydag ef oddi mewn iddo. Pan safodd, llwyddais i agor ei ddrws a neidio allan yn gynt na chynta' y gallwn. Yn niogelwch y tu allan mi edrychais yn syn arno yno, a'r geiriau a ddaeth o' m genau oedd, "Wel, dyna'r Efe wedi ei gwneud hi.". Ond ni wn eto at beth na phwy y cyfeiriwn - y cerbyd, myfi fy hun, ynteu rhyw Bŵer anweledig a all fod weithiau'n ymyrryd â threfn normal symudiadau'r greadigaeth. Ac ni chaf byth wybod gennyf i fy hun pwy oedd yr Efe hwnnw. “
Mae’r dallineb mewnol hwn ynglŷn â gweithrediad ein meddyliau yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod fel nodwedd cyffredin gan arbenigwyr meddwl ein cyfnod ni. Y term amdano yw rhith mewnwelediad neu introspection illusion ac yn ôl y dystiolaeth sydd ar gael mae unigolion yn ei chael hi’n haws o lawer dadansoddi bwriadau pobl eraill na dadansoddi eu bwriadau personol eu hunain. Mae hynny’n gwneud synnwyr o safbwynt esblygiadol gan ei bod hi’n bwysicach gwybod a ydy rhywun arall yn bwriadu’ch twyllo chi mewn rhyw fodd na gwybod a ydy’ch chi’n bwriadu twyllo rhywun arall. Pan ddaw hi’n fater o ddeall ein cymhellion mewnol cudd fy meiau rhagof fi fy hun piau hi. Mae’n haws twyllo pobl eraill os ydych chi cyn cychwyn wedi llwyddo i’ch twyllo chi’ch hunan.
Hyd yma yn y sgwrs hon dw i wedi bod yn pwysleisio argyhoeddiad T.H. Parry-Williams ynglŷn ag anwybodadwyedd pethau ond cyn cloi hwyrach y dylwn i gydbwyso’r ddadl hon ychydig a chydnabod fod T.H. Parry-Williams weithiau’n rhoi sylw i math gwahanol, anghyffredin o wybod ond gwybod sydd wedi’i gyfyngu i unigolion dethol yn unig. Mae’r agwedd hon ar waith T.H. Parry-Williams yn haeddu ymdriniaeth eang iawn ynddi hi ei hun ond y cyfan y gwna i heno yw bras gyfeirio ati.
Yn ail hanner y gerdd I’m Hynafiad a ddarllenwyd yn gynt yn y sgwrs hon mae’n pwysleisio’r holl drysorau y mae wedi’u hetifeddu ganddynt gan nodi
“ Cefais i
Hen grefydd y mynyddoedd gennych chwi.
Cefais greigiau dan fy nhraed
A’u holl ddoethineb bagan yn fy ngwaed
Cefais gred trwy’r hil i lawr
Mai trech na dysg yw dwyster munud awr.”
Mae ‘hen grefydd y mynyddoedd’, y ‘doethineb bagan’ a’r ‘dwyster munud awr’ y mae’n cyfeirio atynt yn fan hyn yn sôn am brofiadau anghyffredin y mae’n eu profi mewn mannau penodol ac sy’n cael sylw ganddo mewn nifer o’i ysgrifau megis Drws Y Coed, Archoffeiriad a Pen Bwlch. Mae’n eu disgrifio fel ‘cynyrfiadau’r ffin’, sef y ffin dybiedig rhwng corff ac enaid a drafodir ganddo mewn sawl lle, ac yn ei ysgrif Drws Y Coed mae’n mentro rhoi esboniad o ryw fath ynglŷn â’u tarddiad.
“Pan fo synhwyrau cydnabyddedig ac anghydnabyddedig y corff trwy ryw offerynoliaeth neu'i gilydd yn gallu ymestyn allan i'r ffin hon y daw i ddyn brofiadau nad ydynt o'r byd hwn. Yr adeg honno y gwêl ysbrydion, y clyw ganu yn yr awyr, yr ymdeimla ag ymdoddiad y gorffennol a'r dyfodol.”
Yn hwyrach ymlaen yn yr ysgrif mae’n pwysleisio fod ‘cynyrfiadau ffin’ yn ‘haws eu synhwyro a’u profi’n ysmudiadau angerddol’ mewn ambell fangre, yn fwyaf arbennig, yn ardal Drws Y Coed.
Llyn Nantlle, Drws Y Coed a’r Wyddfa yn cawrio yn y cefndir
Mae o hefyd yn pwysleisio mai
“hwynt-hwy, er gwaethaf eu natur ansylweddol, ydyw’r agweddau mwyaf di-ragrith ac anffuantus ar ein dynoldeb.”
Mae’n bosib fod tiriogaeth y ffin, ble y gwelir ysbrydion a thylwyth teg, ble y clywir canu yn yr awyr a ble yr ymdeimlir ag ymdoddiad y gorffennol a’r dyfodol, yn gysylltiedig â’r diriogaeth a elwir yn The Middle Kingdom yn Iwerddon, sef y diriogaeth honno rhwng nefoedd y Cristion a byd daearolion ble mae bodau megis Y Tylwyth Teg, ysbrydion a bodau lledrithiol eraill yn trigo.
Dyma’r hyn sydd ganddo i’w ddweud am diriogaeth y ffin yn ei ysgrif Y Gri.
“Y mae byd cnawd a sylwedd yn ddigon gwirioneddol fel rheol, a byd yr ysbryd hefyd i’r rhai sy’n gallu treiddio iddo ambell dro........ ond y mae pethau’r tir terfyn yn ddryswch i’r dyn ysbrydol yn ogystal ag i’r dyn daearol.”
W.B. Yeats, bardd a chyd-Gelt, oedd yn rhannu diddordeb T.H. Parry Williams yn Y Tylwyth Teg a bodau lledrithiol eraill
Roedd gan y bardd Gwyddelig W.B.Yeats ddiddordeb mawr yn y diriogaeth hon a chan ein bod ni’n trafod rôl amheuaeth yng ngwaith T.H. Parry-Williams mae’n werth cofio geiriau ryw sgeptig o’r paranormal (gyda thatŵ o lun Mohawk ar ei fraich, am ryw reswm) a ddyfynnwyd gan Yeats yn ei gyfrol Mythologies;
“No matter what one doubts, one never doubts the faeries, for ….. they stand to reason.”
Mae’r profiadau o lwyr ymgolledd y mae Parry-Williams yn eu cael, fel sy’n cael ei awgrymu ganddo yn ei ysgrif Archoffeiriad, yn debyg iawn o ran eu natur i brofiadau cyfriniol serch nad oes unrhyw ymdeimlad o bresenoldeb dwyfol ynghlwm â nhw. Yn hyn o beth maen nhw’n wahanol iawn i’r hyn a ddisgrifir yng ngherdd gyfriniol Gristnogol Waldo Williams Mewn Dau Gae. Wrth sôn am y profiad y mae’n ei gael wrth grwydro dolydd Pwllcenawon â’i wn dan ei gesail dywed y bydd yn hawdd ganddo
“lithro o ran fy ystâd eneidiol – gwych yr ymadrodd – i ryw fath o berlewyg hyfryd ansylweddol;”.
Mae’n mynd yn ei flaen i gyfeirio unwaith eto at y ffin rhwng corff ac enaid a disgrifio’r ystâd gyfriniol hon yn fwy manwl ‘yn rhes fel ateb cwestiwn cemeg mewn arholiad ysgol’. Ond mae’n pwysleisio, fodd bynnag, ‘nad yw iaith yn ddigonol’ i ddiffinio’r profiad ac felly ‘pa les ymboeni’n ofer i geisio’i ddehongli?’ ‘Y mae’r rhai sy’n gyfarwydd ag ef yn gwybod,’ meddai ‘ac ni ellir cyfleu syniad amdano i’r anghyfarwydd.’
Mae’r cyfuniad hwn o’r ymdeimlad o sicrwydd diwyro sy’n codi o’r profiad - ‘y gwybod cyfrin’, os mynner - ynghyd â’r anhawster i’w fynegi yn wrthrychol mewn geiriau yn elfen gyffredin iawn mewn adroddiadau o brofiadau cyfriniol ac mae ysgrifau T.H. Parry-Williams ei hun yn enghreifftiau nodweddiadol iawn ohonyn nhw.
Mae R. Gerallt Jones, yn ei gyfrol ar T.H. Parry-Williams yn y gyfres Dawn Dweud yn croniclo’r ohebiaeth ddiddorol a fu rhwng gwraig o’r enw Myfanwy Morris o Ruthun a T.H. Parry-Williams ddiwedd y tridegau. Roedd hi wedi cysylltu gydag o yn benodol gan ei bod hithau wedi profi ysgogiadau tebyg i’w eiddo yntau. Mae ei llythyrau’n rhai dwyieithog ac yn cyfeirio at gyfrinwyr hanesyddol megis Awstin Sant, Sant Ffransis a Morgan Llwyd. Ar ddiwedd ei llythyr olaf at at T.H. Parry-Williams, ar ôl sôn am ei hunigrwydd o brofi ysgogiadau nad oedd pobl eraill, yn gyffredinol, yn eu deall a sôn am anogaeth Pedrog ( a gyfarfu un tro) iddi wrando ar ei phrofiadau ei hun mae’n mynegi eu diolch fod T.H. Parry-Williams, o leiaf, wedi medru disgrifio profiadau cyfriniol tebyg yn ei weithiau llenyddol.
“And now, TH Parry-Williams, a mystic of the mystics – thank God for him too. I feel less lonely because he is in the world. Good night.”
Un o’r testunau canoloesol pwysicaf i drafod cyfriniaeth oedd yr arweinlyfr ymarferol gan awdur anhysbys o Loegr The Cloud of Unknowing ac mae’r llyfr hwn wedi dylanwadu ar nifer o lenorion a phersonau creadigol megis W. Somerset Maugham dros y blynyddoedd. Cyhoeddwyd argraffiad o’r llyfr ym 1922 gyda rhagymadrodd gan Evelyn Underhill, yr arbenigwraig ar gyfriniaeth. O ystyried defnydd cwbl fwriadol T.H. Parry-Williams o’r term anghyffredin ‘anwybod’ yn y gerdd I’m Hynafiaid fyddai hi ddim yn afresymol tybio, efallai, fod teitl a chynnwys y llyfr wedi dylanwadu ar ei farn yntau parthed ei brofiadau o ‘ddwyster munud awr’.
Erbyn hyn mae niwrolegwyr wedi medru dangos fod rhannau penodol o’r ymennydd naill ai’n cael eu tanio neu’u distewi pan fydd rhywun yn cael profiad trosgynnol neu gyfriniol, sef llabed yr arlais (temporal lobe) yr inswla blaen (anterior insula) a’r cortecs cyndalcennol dorso-ochrol (dorsolateral preforontal cortex). Mae rhai astudiaethau hefyd wedi nodi rhannau eraill o’r ymennydd. Effaith y patrymau tanio ymenyddol anarferol hyn yw lleihau’r ymdeimlad o’r hunan – sef colli’r ‘ym’ wrth lwyr ymgolli – ymdoddi i’r cread a chreu’r ymdeimlad o argyhoeddiad di-wyro er nad oes gwrthrych i’r argyhoeddiad neu’r gwybod hwnnw. Gall hyn ddigwydd i unrhyw un ond mae niwed i’r rhannau uchod o’r ymennydd yn gallu cryfhau’r tebygolrwydd o’i brofi. Mae hyn hefyd yn digwydd yn aml os bydd rhywun yn ddioddef haint epileptig yn ardal llabed yr arlais.
Fyodor Dostoevsky
Roedd Fyodor Dostoevsky yn ddioddef o’r math hwn o epelepsi ac mae’n disgrifio’r ymdeimlad o ecstasi roedd o’n ei brofi yn union cyn un o’i heintiau fel a ganlyn :
“For several moments ………. I would experience such joy as would be inconceivable in ordinary life – such joy that no one else could have any notion of. I would feel the most complete harmony in myself and in the whole world and this feeling was so strong and sweet that for a few seconds of such bliss I would give ten or more years of my life, even my whole life perhaps.”
Mae’r arbenigwraig ar grefydd gymharol ac awdur llyfrau megis A History of God Karen Armstrong yn trafod yn onest y posibilrwydd fod ei phrofiadau crefyddol hithau yn deillio’n uniongyrchol o’i hepilepsi llabed yr arlais, ond, serch hynny, mae’n gadael y drws yn gil-agored i fodolaeth y dwyfol neu’r trosgynnol.
“My neurologist once told me that people with temporal lobe epilepsy are very often intensely religious. Certainly just before I have a grand mal fit I have a ‘vision’ of such peace, joy and significance that I can only call it God. What does this say about the whole nature of religious vision? ………Is it possible that the feeling I have had all my life that something – God, perhaps? – is just over the horizon, something unimaginable but almost tangibly present, is simply the result of an electrical irregularity in my brain? It is a question that can’t yet be answered, unless it be that God, if He exists, could have created us with that capacity for Him, glimpsed at only when the brain is convulsed.” (Armstrong, 1983)
Mewn pobl sydd heb brofi niwed niwrolegol neu sydd ddim yn dioddef o epelepsi llabed yr arlais mae’r profiadau cyfriniol hyn yn aml yn digwydd yn dilyn cyfnod o fyfyrio estynedig neu o ganlyniad i ymgais gan yr ymennydd i ddelio â pharadocsau ac ansicrwydd dwys, fel rhyw fath o falf yn gollwng tensiwn allan o’r system. Dyna’r rheswm pam fod rhai traddodiadau crefyddol yn fwriadol yn dewis defnyddio paradocsau annatrysadwy i geisio sbarduno profiadau cyfriniol. Yr enghreifftiau amlycaf o hyn (ond nid yr unig rai chwaith) yw’r traddodiadau Taoistaidd a Bwdistaidd C’han yn Tseina a Zen yn Siapan a Korea. Os yw’r esboniad niwrolegol hwn yn gywir, o ystyried ymlyniad T.H. Parry Williams wrth baradocs ac anwybodadwyedd, dyw hi ddim yn syndod ei fod o, o dro i dro, wedi profi ystâd gyfriniol neu ‘berlewyg hyfryd ansylweddol’ i ddefnyddio’i ddisgrifiad ei hun. Ond mae’n annhebygol fod gan hyn ddim byd i’w wneud ag unrhyw ffin dybiedig rhwng corff ac enaid.
Sy’n fy arwain i gloi at eiriau y bardd Saesneg John Keats, geiriau sydd, yn fy marn i, yn adleisio (ond yn rhagflaenu, wrth gwrs) agwedd ganolog T.H. Parry-Williams tuag at anwybodadwyedd ac ansicrwydd.
John Keats
Ym Mis Rhagfyr 1817, pan oedd yn 22 oed, aeth Keats i weld y pantomeim Nadolig blynyddol yn y Theatre Royal yng nghwmni ei gyfaill a’r beirniad llenyddol Charles Wentworth Dilke. Wrth gerdded adref o’r pantomeim gyda Dilke dechreuodd y ddau drafod yn gyffredinol y grefft o ysgrifennu ac yn benodol natur athrylith llenyddol. Yn sgil y drafodaeth a gafodd, ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach ysgrifennodd Keats lythyr enwog at ei frodyr sy’n crynhoi ei syniadau ynglŷn â natur yr hyn y mae’n ei alw yn ‘a Man of Achievement’
"I had not a dispute but a disquisition, with Dilke on various subjects; several things dove-tailed in my mind, and at once it struck me what quality went to form a Man of Achievement, especially in Literature, and which Shakespeare possessed so enormously : I mean Negative Capability, that is, when a man is capable of being in uncertainties, mysteries, doubts, without any irritable reaching after fact and reason.....".
Pa ddisgifiad gwell y gallech chi ei gael o T.H. Parry-Williams, y llenor Cymraeg mwya’i ymlyniad at anwybodadwyedd a gŵr a oedd yn ymgorfforiad mor amlwg o’r Negative Capability y soniodd Keats amdano. Roedd T.H. Parry-Williams wedi dewis ymgodymu â bodoli, chwedl Keats, ‘in uncertainties, mysteries, doubts, without any irritable reaching after fact and reason’ a cheisiodd, trwy ei waith llenyddol, ein hargyhoeddi ni mai ‘mewn anwybod y mae nef yn wir’.
Ôl Nodyn Personol
Mae’n rhyfedd fel y mae pytiau o farddoniaeth a ddysgoch yn ystod eich ieuenctid yn medru brigo i’r wyneb yn gwbl annisgwyl ar adegau pwysig o’ch bywyd. A finnau wedi darllen gwaith T.H. Parry-Williams drosodd a throsedd droeon dyw hi ddim yn syndod, efallai, mai llinellau o un o’i gerddi o a ddaeth i’m cof ar adeg genedigaeth fy mhlentyn cyntaf.
Mae’r profiad o weld genedigaeth plentyn, pob plentyn, yn un arbennig iawn ond mae croesawu eich plentyn cyntaf i’r byd yn brofiad newydd, cwbl ddigynsail. Wrth ddal fy nghyntaf anedig yn fy mreichiau yn fuan ar ôl iddi gyrraedd y byd hwn a syllu i mewn i ddyfnder llygaid oedd yn syllu nôl arna i gyda chwilfrydedd pur a deallusrwydd digyflyraeth yr hyn a lamodd i’m meddwl o nunlle (law yn llaw â rhaeadr o hormonau rhemp, mae’n siwr) oedd dechrau cerdd T.H. Parry-Williams Yr Ymwelydd.
Os daeth llygedyn bach o rywbeth gwell
Na phridd y ddaear rywfodd ar ei hynt
O wyll disymud yr wybrennau pell .......................
Ac wrth i mi yrru adre’r noson honno, wedi cyfarfod yr ymwelydd newydd am y tro cyntaf, roedd fy muchedd innau, fel un T.H. Parry-Williams ei hun,
.................................. ar y ffin
Rhwng nef a llawr - heb fod yn un o’r ddau;
0 notes