Tumgik
#mudiad
werewolfetone · 1 year
Note
I know about the Mudiad Amddiffyn Cymru and the Free Wales Army, but has there never been an armed liberation movement for Scotland? I'd guess it has to do with history, how Scotland themselves kinda asked to be annex by England(?) so I'm guessing that's a main fact (I'm talking mostly about the 50s-90s era) - obviously not saying all Scottish people were happy to submit to the British Crown
In the era you're talking about there's definitely been one or two kicking around but they're not really as notable as those in other places. and like speaking entirely from personal experience here while they do long for the days of william wallace a fair number of the scottish nationalists (derogatory) I know actually pride themselves on not being like those insane irish who use violent methods to try & reverse the union & take offence to being compared to them & so I have a feeling that it'd be pretty difficult for a unique militant liberation movement to get popular in Scotland unless something incredibly drastic and sudden happened. also the people who do want that kind of thing in Scotland often just idolise the ira and/or uvf instead of making their own thing which is also irritating and stupid for different reasons but c'est la vie
2 notes · View notes
instanttunes · 1 year
Video
youtube
Teflon Monkey - Y Mudiad
0 notes
Photo
Tumblr media
Moda Summer Gifts Co., Ltd. https://www.mselectronicgifts.com Whatsapp/WeChat: 86-18938503836 --------------------- Tseiniaidd Design Gwneuthurwr Ultrasonic Home Aroma Humidifier, Diffuser Aromatherapi
—————————————————————————————— Enw'r Cynnyrch: Synhwyrydd Mudiad Muti-Mounty Synhwyrydd Sterilizer Ultraonic LED lamp LED Model: TD-YT 01 Capasiti tanc: 200 ml Pŵer graddio: 2. 5 w Foltedd graddedig: DC- 5 V Amlder Graddedig: 108 KHz Batri: 18650, 2600 m a Tystysgrif: CE / ABCh Deunyddiau Cynnyrch: ABS + Acrylig Pwysau Net Sterilizer: 360 g Taflen Safonol: C / DQDZ 1 - 2017 Man Cynnyrch: Wedi'i wneud yn Tsieina Pellter Synhwyrydd Cynnig: O fewn 3 metr Maint y cynnyrch: 150 mm * 150 mm * 45 mm _________________________________________________________________________
Melin Merched Lleithydd Gradd Uchel, Lleithydd ar gyfer Ystafell Wely Awyr Sych, Llofnod Brand Humidifier Integredig, Dosbarthwr Lleithydd Aroma Ultrasonic, Fforddiadwy Lleithydd Tseiniaidd Gwneuthurwr Dylunio, Lleithydd Mini Ble i Brynu, Sterilizer Gwneuthurwr, Storfa Ar-lein Shenzhen Ultrasonic Aroma Diffuser Tsieina wedi'i Addasu, Gwrthsafiad Lleithydd a Diffuser, Lleithwyr Masnachwyr Masnachwyr Llofnod Tsieina, Tiwtorialau Homemade Homemadier, OEM Lleithyddion Personol ar gyfer Adolygiad Ystafell Wely, Sterilizer Tsieina Ystafell Ddesignerormermer, Lleithyddion Ffatri ar gyfer Cyflenwadau Cartref, Humidifier USB Ffatri Jobber Tsieina, Tsieina Symudol Tai Symudol Llofnod, Mae lleithyddion poblogaidd yn prynu tabl teledu ar gyfer addurno cartref, lleithyddion llofnod ar gyfer cyflenwadau cartref, gwneuthurwr Tsieineaidd Tseiniaidd Humidifier USB, Lleithwyr Personol Personol Gwerthwr Tsieina, Tiwtorialau Hafan Humidifier, Lleithyddion Tsieineaidd Mae niwl ffres yn datblygu, lleithydd mewn tiwtorialau ystafell wely ar gyfer cyflenwadau cartref, Y Cwmni Purifiers Awyr Gorau o Humidifier, Rhestrau Lleithydd Tragwyddol ar gyfer Offer, Cynhyrchu Purifier Awyr Lleithydd Uchel, Rhestrau Humidifier Tragwyddol ar gyfer Offer, Catalogau Gorchymyn Shenzhen Ultrasonic Aroma Diffuser Design Design Gwneuthurwr, Stoc Lleithydd a Diffuser, Lleithwyr Personol Personol Cynhyrchiad Tsieina, Humidifier Homemade Sut, Lleithwyr Cynhyrchu Tseiniaidd a Dehumidifiers, Lleithydd Masnachol i blanhigion, lleithyddion Gwerthwr Tsieina a Dehumidifiers, Lleithydd Masnachol i blanhigion, Mercher Da Lleithydd Mercher, Lleithydd ar gyfer ystafell aer sych cyfanwerthu, dylunio Tseiniaidd cartref cludadwy, lleithyddion manwerthu digidol poblogaidd ar gyfer addurno cartref, Lleolwr dosbarthwyr datblygu lleithydd integredig, dosbarthwr o aroma ultrasonic lleithydd, lleithyddion Tsieina cyflenwyr niwl ffres, Lleithydd yn y Fideos Ystafell Wely ar gyfer Cyflenwadau Cartref, Cwmni Siopa Cartref Teledu Aroma Diffuser Olew a Humidifier Tsieina Custom, Brand Humidifiers Ultrasonic, Gweithgynhyrchu Tseiniaidd Lleithach Rhataf, Mini Humidifier Dod o hyd i ddosbarthwr, gwneuthurwr Sterilizer, Archebwch gatalogau drwy'r post Shenzhen Tseiniaidd Aroma Diffuser, Lleithydd a Tank Tryledwr, Cartref Symudol Humidifier China Factory
0 notes
wcva · 5 years
Text
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – barn aseswyr
Tumblr media
Fiona Liddell a Lorraine Waumsley sy’n myfyrio ar y gorfoledd a’r heriau wrth asesu mudiad ar gyfer gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Mae asesu mudiad ar gyfer y safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dreth a weithiau’n feichus, ond gan amlaf yn rhoi budd mawr ac yn broses ysbrydoledig drylwyr. Mae wastad yn fraint.  
Mae’n gofyn i’r asesydd ymgyfarwyddo â manylion arferion y mudiad yn ogystal â chwrdd â detholiad o staff a gwirfoddolwyr i siarad â hwy am eu profiadau o wirfoddoli. 
Rhaid i'r asesydd gynllunio logisteg y diwrnodau asesu, gan gynnwys dewis sampl gytbwys i’w cyfweld a llunio amserlen realistig. Ar ôl hynny, rhaid iddo ef neu hi ysgrifennu adroddiad sy'n gryno ac yn wrthrychol, gan fodloni union ofynion Panel Sicrwydd Ansawdd y DU ac, yn bwysicaf oll, sy’n ddefnyddiol i'r mudiad yn ei broses o sicrhau gwelliant parhaus. 
Mae’r rhan fwyaf o’r mudiadau a asesir yng Nghymru yn fach, ac mae'r asesiad wyneb yn wyneb yn cymryd diwrnod yn unig. Yn ddiweddar, gwnaethom reoli asesiad y  Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol - ar gyfer ail adnewyddu ei Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Yn gweithredu mewn tair gwlad yn y DU, dros gyfnod o flwyddyn mae bron i 20,000 o wirfoddolwyr yn cefnogi'r elusen gyda chymorth ychydig dros 1,000 o staff.
Gan fod prif swyddfa'r elusen yng Nghaerdydd, cymerodd CGGC yr awenau wrth reoli'r asesiad hwn ledled y DU, a oedd yn cynnwys 7.5 diwrnod o asesiadau wyneb yn wyneb, a gynhaliwyd gan dîm o 4 asesydd ledled Prydain. 
Lorraine, un o’n haseswyr profiadol yng Nghymru, oedd yn gyfrifol am gydlynu’r asesiad ac ysgrifennu’r adroddiad. Gofynnais iddi beth oedd mor arbennig am yr asesiad hwn.   
‘Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn datblygu model diddorol o wirfoddoli ar gyfer y dyfodol’ 
‘Roedd hwn yn ‘farathon’ o asesiad, ar gyfer y mudiad ac ar fy nghyfer i,’ meddai Lorraine. 
‘Nid yn unig oherwydd faint o wirfoddolwyr a staff oedd ynghlwm â’r gwaith, ond hefyd oherwydd eu bod yn mynd drwy gyfnod o newid mawr. 
‘Mae llawer o wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn cymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan wirfoddolwyr, gyda’r elusen yn darparu rôl gefnogol yn hytrach na chyfarwyddol, sy’n ei gwneud yn fwy o her i gysylltu â gwirfoddolwyr a threfnu cyfweliadau. 
‘O ganlyniad, cynhaliwyd llawer o gyfweliadau dros y ffôn, i gael sylwadau eang. Fe wnaeth y rhain, a'r gwaith tîm gwych gan gydweithwyr, ein galluogi i gael ymdeimlad go iawn o'r mudiad a'i holl amrywiaeth. Fel asesydd, mwynheais y dull cydweithredol hwn yn fawr. 
‘Roeddwn yn llawn edmygedd o barodrwydd y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i ymroi adnoddau arwyddocaol, o amser staff ac arian, ar gyfer y broses asesu, a pha mor barod oeddynt i dderbyn y materion dysgu a datblygu a godwyd. 
‘Roeddwn hefyd yn edmygu’r weledigaeth gref ar gyfer arwain y broses o newid ar gyfer y mudiad – roedd yn ymddangos yn benderfynol ond hefyd yn parchu hanes gwerthfawr y mudiad, sy’n cynnwys gwasanaeth hir gan lawer o wirfoddolwyr.   
‘Roedd amrywiaeth a graddfa cynigion gwirfoddoli’r elusen, a maint eu cydweithrediad â'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn llawer mwy na’r hyn yr oeddwn i wedi’i dybio – ac yn fwy nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono o bosib. 
‘Gwnaeth argraff arbennig arnaf, er enghraifft, wrth i mi ddarganfod bod yr elw a gynhyrchir gan gaffis, siopau a gwasanaethau troli mewn ysbytai yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau gofal sy'n galluogi cleifion i ddychwelyd adref gyda chymorth. 
‘Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn datblygu model diddorol o wirfoddoli ar gyfer y dyfodol. Dyna’n union yw’r prosiectau sy'n cael eu harwain gan Wirfoddolwyr, er enghraifft. Mae rhywun yn gweld angen yn eu cymuned – gall fod yn wasanaeth gyfeillio, neu'n sefydlu clwb cinio neu gaffi cymunedol. 
‘Mae'r holl waith trefnu a recriwtio gwirfoddolwyr yn cael ei wneud yn lleol, gan y gwirfoddolwyr eu hunain, ac mae'r elusen yn cefnogi'r prosiect gyda materion cydymffurfio, yswiriant, hyfforddiant, adnoddau a chyngor yn ôl yr angen i helpu. 
‘Mae gwasanaethau eraill, fel y rhaglen Camau Cadarn, yn rhaglenni sy’n cael eu hariannu neu eu comisiynu ac yn cael eu rheoli'n agosach er mwyn sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt. 
‘Mae gwers arall a ddysgais gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol sy'n werth ei rhannu, sy’n ymwneud â defnyddio gwybodaeth ddemograffig yn ddeallus er mwyn marchnata. 
‘Yn Llundain, er enghraifft, mae'r elusen wedi nodi ardaloedd cod post sydd â chanran uchel o bobl iau ac wedi hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli sy'n ymwneud â'r ardaloedd daearyddol hyn ar y radio a'r cyfryngau cymdeithasol, mewn ymgais i ddenu gwirfoddolwyr iau. 
‘Mae cyfeiriad e-bost a rhif ffôn canolog pwrpasol ar gyfer rhannu canmoliaeth, cwynion a sylwadau gan wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Mae hyn yn helpu i nodi straeon newyddion da ynghyd â nodi problemau posib yn gynnar.’ 
‘Mae’r wobr hon yn fwy gwerthfawr oherwydd ei bod yn cydnabod faint rydym yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn ein gwirfoddolwyr’ 
Dilyswyd penderfyniad asesu’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yng nghyfarfod mis Hydref y Panel Sicrwydd Ansawdd, ac rydym yn falch iawn o allu llongyfarch yr elusen ar eu llwyddiant. 
Dywedodd Jennifer Codman, Partner Gwirfoddolwyr yn y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol: ‘Roedd cydlynu’r gwaith o adnewyddu’r cais Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn her ar adegau o ystyried maint ein sefydliad, y safleoedd lluosog, a’r timau amrywiol o staff a gwirfoddolwyr y bu’n rhaid i mi gysylltu â nhw i drefnu ymweliadau asesu a chyfweliadau. Ond roedd hefyd yn brofiad hynod o werth chweil a chawsom adborth gwych gan yr holl bobl a gymerodd ran. 
‘Mae hyn wedi ein galluogi ni i wneud rhai newidiadau cadarnhaol i’r ffordd rydym yn gwneud pethau. O ganlyniad, rydym wedi sefydlu nifer o brosiectau, a gobeithiwn y byddant yn gwella profiad gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ymhellach. 
‘Buaswn yn annog unrhyw fudiad sy’n bwriadu trio am y wobr hon i gymryd y camau cyntaf ac i wneud ymholiadau – mae’r broses wedi ein helpu ni’n wirioneddol i adolygu’r ffordd yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, yn eu rheoli ac yn eu grymuso i roi eu hamser a chefnogi ein gweithgareddau mewn cymunedau lleol.’ 
Dywedodd Laura Morgan, Pennaeth Gwirfoddoli’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol:  ‘Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol yn falch iawn o gynnal ei statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am dair blynedd arall. 
‘Ers dros 80 mlynedd, mae’n gwirfoddolwyr wedi bod wrth galon y mudiad ac mae’r wobr hon yn fwy gwerthfawr oherwydd ei bod yn cydnabod faint rydym yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn ein gwirfoddolwyr. 
‘Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, nawr yn fwy nac erioed, rydym angen i bobl gynnig eu cymorth, ac mae gennym darged uchelgeisiol i gynyddu niferoedd ein gwirfoddolwyr. 
‘Ond i wireddu hyn, mae’n angenrheidiol ein bod yn cynnig y profiad gorau posib i wirfoddolwyr, gan gynnwys roliau â gwerth iddynt ac hefyd i gyflwyno dulliau newydd o wirfoddoli i’w gwneud yn haws i bobl chwarae eu rhan, a denu pobl o gefndiroedd amrywiol ar yr un pryd. 
‘Yn ogystal â chydnabod ein gwybodaeth ac arbenigedd helaeth, darparodd y broses ail asesu ar gyfer y wobr adborth gan wirfoddolwyr a staff, a mewnwelediad amhrisiadwy a fydd yn ein galluogi i berffeithio ein cynnig i wirfoddolwyr.’ 
Mae Lorraine Waumsley yn Asesydd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. 
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol) a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial ar gyfer gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi hefyd yn Brif Asesydd sy’n gyfrifol am oruchwylio safonau asesiadau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan gynnwys asesiad y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.
0 notes
drudwen · 7 years
Text
Betty Campbell - Ff. Arwel
Tumblr media
Ganed Betty Campbell (Johnson gynt) i gartref tlawd yn Nhre-biwt yn 1934. Bryd hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Bae Teigr (Tiger Bay). Yno, ger dociau Caerdydd, gorweddai calon cymunedau aml-ddiwylliannol cynharaf  Cymru – a chartref Betty.
  Daeth tad Betty, Simon Vickers Johnson, draw i Gymru o Jamaica yn bymtheg oed. Lladdwyd ef yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl i’w long, The Ocean Vanguard, gael ei daro gan dorpido yn 1942.  Magwyd Betty gan ei Mam, Honora, fu’n gweithio yn anghyfreithlon fel bwci.
  Bod yn athro fu breuddwyd Betty ers iddi fod yn ferch fach. Ond, er iddi brofi ei gallu yn y dosbarth sawl tro, gan fynd ymlaen i ennill  ysgoloriaeth arbennig i astudio yn y Lady Margaret High School for Girls yng Nghaerdydd, gwynebodd ddiffyg cefnogaeth oherwydd ei hil a’i dosbarth.
  Un enghraifft o hyn oedd pan ddywedodd ei phrifathrawes wrthi y byddai’r problemau y byddai hi yn siwr o’u hwynebu fel geneth ddu o gefndir dosbarth gweithiol yn “anorchfygol”. Rhuthrodd Betty yn ôl i’w desg ar glywed y geiriau a dan feichio crio.
 Byddai Betty yn cofio’r geiriau hynny am byth. Ond er hynny, dim ond llwyddo i finiogi ei herfeiddiwch i wireddu ei breuddwyd wnaeth geiriau siarp ac anystyriol yr athrawes.
  Yn 17 mlwydd oed, a hithau’n astudio am ei Lefelau A, beichiogodd Betty ac yna yn 1953 gadwodd yr ysgol i briodi ei chariad, Robert Campbell. Ond nid anghofiodd hi hi fyth ei breuddwyd o fod yn athro.
  Yn 1960 a hithau bellach yn fam i dri o blant, fe ddaeth Betty ar draws hysbyseb ym mhapur y South Wales Echo oedd yn nodi bod Coleg Hyfforddi Caerdydd bellach yn derbyn myfyrwyr benywaidd. Yn sydyn, teimlai’r freuddwyd o ddysgu yn fwy real nag erioed ac yn fuan ar ôl ymgeisio, fe’i derbynwyd hi i’r coleg.
  Erbyn iddi ddechrau ei gradd mewn addysg, roedd Betty wedi rhoi genedigaeth i’w phedwerydd plentyn a’r plentyn hwnnw yn dioddef o ffitiau yn gyson a gyda anghenion arbennig. Ond gyda cymorth gan ei Mam, ei theulu a’i ffrindiau, fe barhaodd Betty gyda’i hastudiaethau.
  Er mai yn Llanrhymni roedd ei swydd dysgu gyntaf, buan iawn dychwelodd i Dre-biwt ar ôl derbyn swydd yn Ysgol Gynradd Mount Stuart. Ond doedd dychwelyd i’w hardal enedigol ddim yn fêl i gyd. Fel athrawes ddu fe brofodd hi hiliaeth ac agweddau gelyniaethus gan rai rhieni. Doedd rhai ohonyn nhw erioed wedi gweld athro du o’r blaen ac fe deimlodd Betty ei bod yn cael ei gweld yn israddol oherwydd ei hil.
  Roedd hi’n gwbl benderfynol o newid eu hagweddau rhagfarnllyd.
  Ei breuddwyd fawr hi oedd cael bod yn brifathrawes ac yn yr 1970au fe wireddwyd y freuddwyd honno pan ddaeth hi’n bennaeth ysgol du cyntaf Cymru yn Ysgol Mount Stuart. Fe’i hysbrydoldwyd hi gan ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth fel Harriet Tubman a’r mudiad hawliau sifil draw yn yr Unol Daleithiau felly dechreuodd ddysgu’r disgyblion am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon a’r system apartheid oedd yn weithredol ar y pryd yn ne Affrica.
 Wynebodd feirniadaeth am gynnwys ei chwricwlwm ond gwrthododd ildio –roedd yn ddyletswydd arni i ddysgu’r plant am yr hanes a’u gwneud yn ymwybodol o lwyddiannau arbennig pobl dduon o amgylch y byd.                                              
  O dan arweiniad arbennig Betty fe gynyddodd amlygrwydd Ysgol Mount Stuart a daeth pobl ledled y wlad i ddeall am waith gwych Betty. Bellach, mae ei chyn ddisgyblion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd hynod lwyddiannus fel doctoriaid, cyfreithwyr ac athrawon.
 Daeth dim diwedd ar lwyddiannau hynod Betty. Yn 1998, fel aelod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hil, fe’i gwahoddwyd i gyfarfod â Nelson Mandela yn ystod ei unig ymweliad ef â Chymru. Bu’n aelod o fwrdd BBC Wales yn yr 1980au gan oruchwylio materion golygyddol a chynyrchu ac, yn 2003, fe’i gwnaed yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ei gwasanaethau dros addysg a bywyd cymunedol.  Cynrychiolodd hi Dre-biwt fel cynghorydd hefyd fel aelod Llafur Cymru ac aelod annibynnol.
 Yn ddiweddar, yn ystod mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn 2016, cyflwynwyd iddi wobr cyfraniad oes gan Kebba Manneh, cadeirydd Grwp Aelodau Du Unison Cymru Wales.
 Mae Betty Campbell yn gosod esiampl arbennig - ac mae’n fodel rôl ar gyfer pobl ddu a menywod fel ei gilydd. Mae hi’n parhau i fod yn uchel ei pharch yn ei chymuned yn Nhre-biwt ac yn cael ei chydnabod fel awdurdod academaidd pwysig ym maes addysg am ei syniadaeth arloesol mewn addysg plant.  
  Mae ei chyfraniad arthurol hi i’r byd addysg – heb sôn am ei gwaith codi ymwybyddiaeth hanesyddol a dathlu cyfraniad pobl ddu drwy’r byd – i’w weld hyd heddiw yn ei chymuned yn Nhre-biwt, drwy Gymru a thu hwnt.
  Gyda’i phendantrwydd a’i herfeiddiwch a’i hetifeddiaeth arbennig hi, mae Betty Campbell wedi hen ennill ei lle fel un o fenywod mwyaf ysbrydoledig ac arwyddocaol Cymru heddiw.
  Darllen pellach:
Erthygl ar BBC Wales News
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36044620
Cyfweliad gyda Cynulliad Cenedlaethol Cymru https://www.youtube.com/watch?v=N-9Ct_Gvhes Erthygl Wales Online http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/lifetime-achievement-accolade-betty-campbell-10183522
Daw Fflur Arwel o Gaernarfon ac mae bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i wasg Y Lolfa fel rheolwr marchnata.
2 notes · View notes
licollyfrelot · 5 years
Text
The Guilty Feminist
Tumblr media
The Guilty Feminist: From our noble goals to our worst hypocrisies Deborah Frances-White (Virago, 2018)
“I’m a feminist, but...” Dyma sut mae pob podlediad The Guilty Feminist yn dechrau: datganiadau - cyfaddefiadau - o bethau ry’n ni fel ffeministiad yn eu gwneud, sydd efallai ddim yn ffeminist iawn. Er enghraifft, o wefan y podlediad: “I’m a feminist but I detagged myself from a picture at a women’s conference where we were all standing in front of a sign which said ‘Empowered Not Coward’, because my ankles looked fat.” 
Dechreuodd y comediwyr (-wragedd? I’m a feminst but I’m not sure if that’s sexist) Deborah Frances-White a Sofie Hagen y podlediad nol yn 2016, fel ymgais i drafod a chydnabod y gwrthddywediadau sy’n wynebu ffeministiaid yn y byd modern. Mae’n ddoniol iawn, a dwi’n ei fwynhau yn fawr (rhai mwy nag eraill yn dibynnu ar ansawdd y sain, ond mater arall yw hynny). Dwi wedi gwrando ar bron bob un, ac mae gan bob bennod thema: Nudity, Apologising, Body Capability, Democracy, i restru rhai yn unig. Bellach, wrth i mi sgwennu hwn, mae na 132 o benodau ar gael i wrando arnyn nhw, felly digon i ddal lan ag e os y’ch chi heb ei glywed eto. Mae’r llyfr yma’n estyniad o’r podlediad: yn trafod nifer o’r themâu creiddiol i’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal yn fyw ar lwyfan, yn ogystal â chynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r menywod sydd wedi cyfrannu i’r podlediad dros y blynyddoedd ers iddo gychwyn.
Mae ffeministiaeth Deborah Frances-White yn gynhwysol a chroestoriadol (intersectional), sy’n cydnabod ac yn cynnwys gwahanol brofiadau gwahanol fathau o fenywod: BAME, LGBTQ+ ac o wahanol alluoedd corfforol. Mae hi’n ofalus iawn wrth siarad ar lwyfan acyn y llyfr hwn i beidio â chwympo i’r cawg white feminism, ond hefyd yn cwympo ar ei bai ac yn derbyn beirniadaeth pan fo hi’n gwneud datganiad ar y podlediad sydd wedi cyffredinoli yn ormodol heb ystyried profiadau eraill. Mae’r gyfres yn sicr wedi gwneud i mi sylweddoli beth yw fy mreintiau i (”if you don’t have to think about it, it’s a privilege”) fel menyw wyn, ddosbarth canol, cisgender, heterorywiol. Rhaid cydnabod y breintiau, a sylweddoli bod ein profiad personol ni yn wahanol i rywun arall oherwydd gwahanol ffactorau, ond dyw hynny ddim yn ddigon yn eu hun. Yr hyn y mae’r podlediad, a’r llyfr hwn yn ei dro yn eu gwneud, yw ein hannog ni fel gwrandawyr a darllenwyr i roi platfform i eraill, a chynnig ffyrdd o ddefnyddio’r drysau hynny sydd ar agor i ni’n bersonol, a’u hagor i’r rheiny sydd ddim yn gallu mynd drwyddyn nhw mor hawdd. Cynnig llaw i eraill ddringo’r ysgol, yn hytrach na thynnu’r ysgol oddi wrthynt. Mae Frances-White yn ceisio sicrhau fod na gynrychiolaeth i bob lleiafrif yn ei dro ym mhenodau’r podlediad, ac mae hyn wedi rhoi cyfle i mi’n bersonol glywed straeon pobl na fyswn i erioed wedi dod ar eu traws nhw fel arall. Mae’r cyfweliadau gyda gwahanol fenywod o bob cefndir ar ddiwedd bob pennod hefyd yn fodd i wneud hyn, ac yn enghraifft berffaith o’r modd y mae Deborah Frances-White yn hapus i rannu ei phlatfform a throsglwyddo’r awenau i eraill yn hytrach na meiddio siarad ar eu rhan.
Er mai llyfr comedi yw hwn mewn nifer o ffyrdd, mae hefyd yn trafod pynciau o bwys ac yn llawn ymchwil trylwyr. Fel cyfrol Sara Pascoe, Animal, o’i flaen, mae The Guilty Feminist yn lyfr sydd wedi’i angori mewn llyfrau hanes ac astudiaethau gwyddonol a chymdeithasegol. Does na ddim datganiadau di-sail yma. Mae Frances-White yn cyflwyno hanes ffeministaieth i ddechrau, gan ein harwain drwy y gwahanol donnau sydd wedi bod, a’r holl ffurfiau gwahanol y mae ffeministiaeth wedi ac yn ei gymryd. Wedi gosod y cyd-destun, mae’n bryd trafod yn fwy manwl ar y pwnc. Mae hi’n mynd i’r afael â delwedd corff, a cheisio dysgu i garu ein cyrff am yr hyn maen nhw’n gallu eu gwneud yn hytrach na sut maen nhw’n edrych (still working on it). Ceir pennod ar fenywod yn y gwaith, gyda tips ar sut i siarad mwy mewn cyfarfod a sut i wneud cyflwyniad neu ofyn am godiad cyflog yn llwyddiannus. Mae na engraifft diddorol, sy’n codi drwy gydol y llyfr, sy’n dyfeisio arbrawf yn cynnwys dau efaill (gwrywaidd). Mae gan y ddau efaill dychmygol hyn yr un cefndir, yr un galluoedd, yr un potensial. Mae un yn cael ei annog, yn clywed ei fod yn medru gwneud popeth a fod unrhywbeth y mae eisiau ei drio yn bosib, tra fod y llall yn cael ei gymharu yn anffafriol â’i frawd, yn cael llai o arian poced am yr un gwaith, yn clywed ei fod yn *gallu* neud pethe ond fod na un arall fel fe yn barod yn gwneud y peth hwnnw felly does na ddim lle iddo hefyd. Yn fras, mae un yn cael ei drin fel dyn (gwyn, cyfoethog, hetero, cis) a’r llall fel y mae menywod (yn gyffrdinol yn cael eu trin. Mae’n gyffredinoli llwyr, wrth gwrs, ond mae’n fodd o ddangos y duedd gyffredinol yn y gwahaniaeth rhwng dynion a menywod, a’r modd y mae agwedd cymdeithas tuag atynt yn siapio’u personoliaethau a’r modd y maen nhw’n ymwneud â’r byd. 
Ar adegau, ro’n i’n teimlo efallai fod y llyfr yn trio cyfiawnhau rhai pethau yn ormodol, efallai. Ro’n i’n teimlo fod y bennod tua diwedd y llyfr sy’n trafod rhai o ‘guilty pleasures’ fel Romcoms, neu Say Yes to the Dress, er enghraifft, yn gorfeddwl pethau ychydig. Mae na rhywbeth i ddweud am y ffaith mai weithiau diwrnod priodas yw’r unig gyfle y mae rhai menywod yn cael i gael rhoi eu barn heb gael ei gwestiynu neu gael pethau yn union fel y mae hi ei eisiau, ond eto dwi’n nabod pobl sydd â rheolaeth mewn nifer o wahanol agweddau o’u bywydau a sy’n dal wedi cael eu hunain yn mynd braidd yn obsessive am centrepieces. Weithiau ni’n neud pethe am ein bod ni’n eu mwynhau nhw, ac efallai nad yw hi’n ddefnydiol i graffu’n ormodol am y rheswm pam. I’m a feminist but I like romcoms.
Fel y disgwylir mewn llyfr ar ffeministiaeth, mae na bethau anodd yn cael eu trafod rhwng y cloriau, a dyw e ddim i gyd yn fflwff am hunan-gred (ddim o gwbl, a dweyd y gwir). Mae’r gyfrol yn codi pwyntiau diddorol a phwysig am sut y mae cymdeithas yn ystyried gwerth bywydau dynion: y syniad yma o “women and children first” sy’n un o ddadleuon Men’s Rights Activists. Mae’n dangos dipyn am Deborah Frances-White nad yw hi (fel y byddai’n hawdd ei wneud) yn diystyru safbwyntiau MRAs fel sexists hunanbwysig ond yn hytrach yn cydnabod yr hyn y maent yn ei gredu ac yn parchu eu barn, gan eu hystyried â meddwl beirniadol yn hytrach nag emosiynol. Parch a chariad yw’r prif linynnau drwy’r llyfr, a dweud y gwir: ceir ynddo nifer o wahanol enghreifftiau o bŵer gwrando ar brofiad a barn rhywun, sy’n gwneud iddyn nhw deimlo fod ganddyn nhw rywbeth sydd yn werth ei ddweud. Mae’r mudiad y mae Deborah Frances-White wedi ei greu yn un sydd, dwi’n siwr, wedi gwneud i bobl na fyddai fyth wedi meddwl am eu hunain fel ffeministiaid i uniaethu â’r gair, ac wedi cymryd camau pwysig i agor pob math o ddrysau i bob math o fenyw. 
0 notes
yesnayak · 4 years
Text
Ad-drefnu'r Urdd: Cysylltu â'r Comisiynydd Plant?
Ad-drefnu’r Urdd: Cysylltu â’r Comisiynydd Plant?
[ad_1]
Image caption Mae trefn desg boeth dan ystyriaeth yn lle swyddfa benodol ym Môn, gyda swyddogion yn ymweld yn gyson
Mae rhai o aelodau Urdd Gobaith Cymru’n ystyried cysylltu gyda’r Comisiynydd Plant ynglŷn â’u pryderon am gynlluniau ailstrwythuro’r mudiad.
Mae’r aelodau ar Ynys Môn yn anhapus y gallai staff yr Urdd gael eu symud o’r ynys a’u canoli ym…
View On WordPress
0 notes
jobgujnews · 4 years
Text
Welsh language education scheme rolls out across Wales
Welsh language education scheme rolls out across Wales
Image caption Ysgol Bro Alun in Gwersyllt, Wrexham, adopted the Mudiad Meithrin scheme
A scheme to help preschool children learn Welsh more quickly is being rolled out across the country.
Croesi’r Bont, or Crossing the Bridge, has been developed by Mudiad Meithrin, which runs most Welsh-medium early years provision.
View On WordPress
0 notes
aoifeschatology · 6 years
Text
https://twitter.com/nevillesouthall/status/1007686027815813120?s=21
Cyfarfod nesaf / Next open meeting 28/06, 7.30
Canolfan Cymuned Cathays Community Centre.
Mae’r mudiad yn tyfu dewch I fod rhan ohono – #indywales is getting nearer; help us shape a better future for us all.
https://twitter.com/yescaerdydd/status/1007700456372662273?s=21
View On WordPress
0 notes
Text
Free Wales Army & Movement for the Defence of Wales)
Free Wales Army and Mudiad Amddiffyn Cymru (Movement for the Defence of Wales), abbreviated as MAC, were two paramilitary Welsh nationalist organisation, which was responsible for a number of bombing incidents between 1963 and 1969. The group's activities primarily targeted infrastructure carrying water to the English city of Liverpool.
MAC was initially set up in response to the flooding of the Afon Tryweryn valley and the flooding of the village of Capel Celyn to provide water for Liverpool. Its founders were Owain Williams, John Albert Jones and Emyr Llywelyn Jones. On 10 February 1963 a transformer at the dam construction site was blown up by three men, of whom one, Emyr Llywelyn Jones, was identified, convicted and sentenced to one year imprisonment. MAC blew up an electricity pylon at Gellilydan on the day of his conviction. This led to the arrest and conviction of Owain Williams and John Albert Jones.
The leadership of the organisation was later taken over by John Barnard Jenkins, a former non-commissioned officer in the British Army's Royal Army Medical Corps. Under his leadership, MAC was suspected by British police to have been behind the bombing of the Clywedog dam construction site in 1966. In 1967 a pipe carrying water from Lake Vyrnwy to Liverpool was blown up which was another valley that was flooded to supply water to Liverpool 80 years before Tryweryn. 
Later the same year MAC exploded a bomb at the Temple of Peace and Health in Cardiff's civic centre, close to a venue which was to be used for a conference to discuss the Investiture of Prince Charles as Prince of Wales. In 1968 a tax office in Cardiff was blown up, followed the same year by the Welsh Office building in the same city, then another water pipe at Helsby, Cheshire. In April 1969 a tax office in Chester was the next target. On 30 June 1969, the evening before the investiture, two members of MAC, Alwyn Jones and George Taylor, were killed when a bomb they had been placing near government offices exploded prematurely. On the day of the investiture, two other bombs were planted in Caernarfon, one in the local police constable's garden which exploded as the 21 gun salute was fired. Another was planted in an iron forge near the castle but failed to go off. The final bomb was placed on the Llandudno Pier and was designed to stop the Royal Yacht Britannia from docking - this too failed to explode. In November 1969 John Jenkins was arrested, and in April 1970 was convicted of eight offences involving explosives and sentenced to ten years' imprisonment. In an interview shown on the BBC2 4 July 2009, John Jenkins repeated his intention that the bombs were never planted or timed to hurt people but just to disrupt the ceremony. Although there were further bombings, there is no evidence that MAC were involved.
0 notes
balchder · 10 years
Photo
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
A busy week all round for Balchder Cymru, for myself and for those striving for a better future in the Celtic countries. The Brit establishment have been busy people too by the looks of it (but more of that on the next blog)
First up was remembering Owain Glyndwr becoming Tywysog Cymru (16th Sept) and the town of Corwen as usual threw themselves into it with a church service, local schools and groups involved, the Cambria Band led a parade to the statue of the great man and speeches were made and a wreath laid. "Tan tan mae Rhuthin ar dan" Fire fire Ruthins on fire was the song ringing around the square as the school childeren sang us the story of Glyndwrs first act- the sacking of Lord Grays town (Lord Gray had stolen his lands).
Then the Scottish Referendum was upon us and despite the best efforts of the Yes Camp and support from all over the world the Brit empire and its box of dirty tricks won through! (Next blog)
Friday was a down day as reality kicked in and the Brit empire still stood triumphant, we were down in Treforest for the funeral of Free Wales Army man Dafydd "Y Dug" Burns one of the "9" that were sent to jail on the actual day of the investiture of the (Pretender) Prince of Wales Charles Windsor July 1st 1969. Rest in peace comerade "Fe Godwn Ni Eto!"
Pictured is John Jenkins MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru) who re visited Gelligaer the site of a Celtic church and later a Roman fort where over 30 yrs earlier he was pictured for his book (back cover) Prison Letters.
Saturday we held a Independence rally in Ruthin where around 60 people turned out to remind the people of Cymru that we are still here and we are still standing!
0 notes
Photo
Tumblr media
Moda Summer Gifts Co., Ltd. https://www.mselectronicgifts.com Whatsapp/WeChat: 86-18938503836 --------------------- Ffatri Tsieina Aroma Lleithydd, Lleithwyr Ystafell Wely, Purifier Awyr, Diheintydd Chwistrell
—————————————————————————————— Enw'r Cynnyrch: Synhwyrydd Mudiad Muti-Mounty Synhwyrydd Sterilizer Ultraonic LED lamp LED Model: TD-YT 01 Capasiti tanc: 200 ml Pŵer graddio: 2. 5 w Foltedd graddedig: DC- 5 V Amlder Graddedig: 108 KHz Batri: 18650, 2600 m a Tystysgrif: CE / ABCh Deunyddiau Cynnyrch: ABS + Acrylig Pwysau Net Sterilizer: 360 g Taflen Safonol: C / DQDZ 1 - 2017 Man Cynnyrch: Wedi'i wneud yn Tsieina Pellter Synhwyrydd Cynnig: O fewn 3 metr Maint y cynnyrch: 150 mm * 150 mm * 45 mm _________________________________________________________________________
Teledu Poblogaidd Cwmni Siopa Cartref Teledu ar gyfer Addurn Cartref, Ansawdd Uchel Ffatri Cyfanwerthu Cyfanwerthu, Humidifier ar gyfer ystafell wely awyr sych Cyfanwerthu Gradd Uchel Lleithydd Purifier Gwneuthurwr Purifier, tragwyddol Warws Humidifier ar gyfer Offer Cartref, Cyflenwyr Purifier Awyr Lleithydd Hwyr, Stociwr lleithydd tragwyddol ar gyfer offer cartref, cynhyrchu purifier aer gorau, stociwr lleithydd tragwyddol ar gyfer offer cartref, OEM Lleithwyr Personol ar gyfer Fideos Ystafell Wely, Sterilizer China Design Room, Manwerthwr Digidol Aroma Tryledwr Olew a Lleithydd Tsieina Custom, Ultrasonic Humidifers Design Gweithgynhyrchu, Cartref cludadwy Gwerthwr Tsieina, Humidifiers Poblogaidd Cwmni Siopa Cartref Teledu ar gyfer addurn cartref, Melin Beachifier Gorau, Lleithydd ar gyfer ystafell wely awyr sych cyfanwerthu, Cheap Humidifier China Gwerthwr, Cari Mini Mini Gweithgynhyrchu, gwneuthurwr sterilizer, cynhyrchydd cyfanwerthwr lleithder o ansawdd uchel, lleithydd ar gyfer ystafell wely aer sych cyfanwerthu, Lleithwyr Personol Cyfanwerthu Gwneuthurwyr Tsieina, Lleithydd Fideos Cartref, Manwerthwr Digidol Aroma Diffuser Olew a Humidifier China Gwerthwr, Brand Humidifers Ultrasonic, Lleithyddion cynhyrchydd Tsieina a dadleithyddion, lleithydd masnachol ar gyfer planhigion, lleithydd integredig yn dod o hyd i gyflenwad dosbarthwr, ultrasonic aroma sumidifier cytundeb, Lleithydd Integredig Ble i Brynu Gwerthwr, Dosbarthiad Humidifier Aroma Ultrasonic, lleithyddion Tsieina Custom Custom, Lleithydd mewn Fideosfor ystafell wely Cyflenwadau cartref, Pris Isaf Llinachydd Design Tsieina, Lleithiwr Car Mini Ble i Brynu, Gweithgynhyrchydd Sterilizer, Gweithgynhyrchu Humidifier Da, Lleithydd ar gyfer Cyfanwerthu ystafell wely aer sych, Lleithwyr Personol Masnachwyr Tsieina Addaswyd, Lleithydd Adolygiad Cartref, Gradd Uchel Gwneuthurwr Purifier Awyr, Tragwyddol Humidifier Warehouse am Offer Cartref, Cartref cludadwy Cwmni Tsieineaidd, Lleithwyr Poblogaidd Manwerthwr Digidol ar gyfer addurn cartref, lleithyddion cynhyrchydd Tsieina a dad-ddehonglwyr, lleithydd masnachol i blanhigion, Siop ar-lein Shenzhen Ultrasonic Aroma Diffuser Gwerthwr, Lleithydd a Niffuser Stoctor, Cartref Symudol Sulofifier Chinese Maker Manwerthwr Fideo ar gyfer Decor Cartref, Gwerthwr Tsieineaidd Aromatherapi Diffoddwr ar gyfer Cyflenwyr Harddwch, Humidifier Homemade Sut i, Aromatherapi Tryledwr Datblygu Tseiniaidd i ddatblygu ar gyfer cyflenwyr harddwch, Humidifier Adolygiad Cartref, OEM Hiwmorau Personol ar gyfer Tiwtorialau Ystafell Wely, Sterilizer Tsieina Cyflenwyr Ystafell, Siopa Ar-lein Shenzhen Ultrasonic Aroma Diffuser Gweithgynhyrchu Tsieineaidd, Warws Lleithydd a Diffuser, Melin Bobrau Lleithydd Da, Lleithydd ar gyfer Masnachwyr Ystafell Wely Awyr Sych, OEM Lleithyddion Personol ar gyfer Tiwtorialau Ystafell Wely, Sterilizer China Datblygu Ystafell
0 notes
wcva · 5 years
Text
Buddsoddwch yn eich gwirfoddolwyr - dilynwch esiampl Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Tumblr media
‘Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Marc Ansawdd CGGC. Yma, mae’n sôn am ei hymweliad diweddar â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot a sut mae’r Cyngor wedi llwyddo i ennill ei drydydd marc ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. 
Mae’n fore Gwener, mae’r arllwys y glaw ac rwyf ar fy ffordd i Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot i gwrdd â Gemma Richards, Uwch Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
Yn y gorffennol, mae Gemma wedi bod yn gynghorydd Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, felly mae’n cynorthwyo y tu mewn a’r tu allan i’r sefydliad gyda phob mater sy’n ymwneud â Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Mae’n fy nghyfarch gyda gwên fawr groesawgar ac yn dangos y ffordd i’r ystafell gyfarfod glyd i fyny’r grisiau. Rydym yn dilyn y llwybr ochr i’r ystafell rhag amharu ar y cyrsiau dysgu a’r cyfarfodydd sy’n digwydd yng ngweddill yr adeilad.
Ar ôl gwneud ein hunain yn gyfforddus a chyda phaned o de yn ein llaw, rydym yn dechrau sgwrsio am bopeth yn ymwneud â ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ yng Nghastell-nedd Port Talbot…
Prosiectau Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Mae’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol wedi cyflawni’r nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers chwe blynedd bellach, a’r mis diwethaf, llwyddodd i adennill y wobr.
Mae pedwar prosiect sy’n annibynnol ar y Ganolfan Wirfoddoli graidd y mae’r sefydliad yn eu rhedeg nawr, ond mae pethau’n llawer llai cymhleth o edrych yn fanylach arnynt, fel y dangosodd Gemma i mi yn ei llyfr nodiadau
Gwasanaeth Gwirfoddoli Gwasanaethau Cymdeithasol – gwasanaeth gwirfoddoli i oedolion yn y gwasanaethau cymdeithasol yw hwn. Gall y cyfleoedd gwirfoddoli fod yn rhai hirdymor. Cefais fy siomi ar yr ochr orau o glywed bod rhai gwirfoddolwyr yn ymgysylltu am flynyddoedd lawer ac yn meithrin perthynas gref â’r unigolion y maent yn eu cefnogi.
Prosiect gwirfoddoli cymorth i deuluoedd – Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli am gyfnodau penodol, gan fod angen cymorth tymor byr ond dwys ar y teuluoedd gan wirfoddolwyr am gyfnod o 12 wythnos.
Prosiect Cyfeillion Cymunedol     – Mae’r prosiect yn cwmpasu ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Caiff ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n darparu     cymorth i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.
Prosiect Cymorth Ymgysylltu ag Ieuenctid – Caiff hwn ei arian gan yr awdurdod lleol i gefnogi pobl ifanc NEET (pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) er mwyn gwella eu sgiliau cymdeithasol a chyflogadwyedd.  
Mae Gemma’n sgwrsio â mi am y 6 aelod rhyfeddol o staff sy’n gyfrifol am ardal eang lle mae galw mawr am wirfoddolwyr. Yn ffodus, mae brwdfrydedd a gwaith caled y tîm yn diwallu’r anghenion lleol. Ar hyn o bryd, maent yn ymgysylltu â 52 o wirfoddolwyr ar draws yr holl brosiectau.
Rwy’n pendroni am y risgiau a’r materion diogelu sy’n gysylltiedig â’r math hwn o waith (fy nghefndir ym maes gwaith ieuenctid yn dod i’r amlwg, siŵr o fod), felly rwy’n gofyn, ‘sut mae tîm Gemma yn rheoli’r risgiau wrth weithio mor agos â’r holl unigolion bregus hyn?’
Ymateb hyderus Gemma yw: ‘‘Gwneir gwiriadau fetio manwl iawn ar wirfoddolwyr. Mae’r Swyddogion Datblygu yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn brofiadol iawn a chaiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o bynciau hyfforddi y maent yn eu darparu i’r gwirfoddolwyr. Caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi ar sut i gefnogi unigolion bregus a sut i ddiogelu eu hunain wrth wirfoddoli’’.
Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn gwirio pob polisi a gweithdrefn fewnol ac yn cyfweld â gwirfoddolwyr i sicrhau darpariaeth ragorol. Yn ogystal â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y geirda am gymeriad gwirfoddolwr ac asesiadau risg, dywed Gemma y caiff y gwirfoddolwyr eu gwylio ar sail 1-1 ac mewn gweithgareddau grŵp er mwyn sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.
Mae hefyd yn pwysleisio bod y cyfathrebu rhwng gwirfoddolwyr a buddiolwyr yn glir iawn, gan fod cyfrifoldebau a rolau gwirfoddolwyr wedi’u nodi’n glir mewn cytundeb gwirfoddoli y mae pawb yn cadw ato.
Mae pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan y gwirfoddolwyr ac mae goruchwyliaeth bellach bob amser, a chyfathrebu agored gyda phawb pan fydd angen. Mae’n egluro nad rhywun i gymryd lle aelod o staff cyflogedig yw gwirfoddolwyr.
“Mae gwirfoddolwyr yn eu lle i ategu gwasanaethau statudol ac maent yn ychwanegu gwerth sylweddol at y gwasanaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gall gwirfoddolwyr ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol, ac weithiau, y cyfan sydd ei angen yw clust i wrando er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.”
Soniodd Gemma wrthyf hefyd am y Ganolfan Wirfoddoli ei hun, sydd ar wahân i’r prosiectau annibynnol a nodir uchod. Drwy wasanaeth y Ganolfan Wirfoddolwyr, caiff gwirfoddolwyr eu cefnogi i wirfoddoli gyda sefydliadau allanol mewn amrywiaeth eang o rolau. Cefnogir sefydliadau hefyd i gryfhau eu harferion da o ran gwirfoddoli fel bod gwirfoddolwyr a gaiff eu cyfeirio atynt gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu lleoli mewn sefydliadau sy’n ddiogel ac yn gefnogol. 
Tumblr media
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ym mhrosesau ac arferion craidd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
Wrth weld angerdd Gemma tuag at ansawdd mewn ymarfer dyddiol, cawn drafodaeth ddwys am Sicrwydd Ansawdd yn y trydydd sector yng Nghymru.
Dywed Gemma fod gan bob sector eu safonau ansawdd eu hunain i brofi eu gwaith rhagorol iddynt hwy eu hunain ac i eraill. “Pam y dylai’r trydydd sector fod yn wahanol? Mae llawer o’r cyllid yn arian cyhoeddus ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio’n effeithiol”.
Mae Gemma yn credu ei bod yn bwysig Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ond mae’n cydnabod nad yw pob sefydliad mewn sefyllfa i gynnal asesiad llawn o safonau ansawdd. Mae’n awgrymu y dylai sefydliadau ddefnyddio’r gwiriad iechyd, fan leiaf, fel hunanasesiad i ganfod unrhyw anghenion datblygu a chysylltu â’u Cyngor Gwirfoddol Sirol os oes angen cymorth arnynt i wella eu harferion da ym maes gwirfoddoli.  
“Mae’r trydydd sector yn cwmpasu nifer fawr o staff proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r holl sgiliau, gwybodaeth a phrofiad o fewn y sector yn syfrdanol ac mae safonau ansawdd fel Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac Elusen Ddibynadwy yn dystiolaeth o hyn”.
Mae Gemma a’i thîm yn cefnogi pob mudiad gwirfoddol yn ardal Castell-nedd Port Talbot i gael mynediad at feini prawf Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a deall y meini prawf hynny. Dywed ei bod yn well gan rai gwirfoddolwyr ymgysylltu â sefydliadau sydd â Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan eu bod yn teimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus o wybod mai yno y byddant yn cael y profiad gorau.
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn angerddol dros ymgysylltu â’i wirfoddolwyr ac yn parhau i feithrin cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan yn y cyfleoedd hynny a chymdeithasu; gan gynnwys Cinio Nadolig, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a dathliadau arbennig i wirfoddolwyr. Maent yn codi ymwybyddiaeth o wirfoddolwyr lleol, yn eu henwebu am wobrau ac yn diolch iddynt am eu gwaith anhygoel.
Mae Gemma wedi ei chyffroi gan ffilm fer newydd a gaiff ei chynhyrchu gan wirfoddolwyr sy’n ychwanegu gwerth at y bwrdd iechyd lleol. Mae ganddi lawer o barch at eu gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth a byddai’n fwy na pharod gweithio gyda rhagor o bobl ifanc gyda sgiliau TG a sgiliau Cyfryngau, felly lledaenwch y gair yn ardal Castell-nedd Port Talbot a chysylltwch os oes gennych ddiddordeb! 
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gan mai un o’r pethau rwy’n teimlo fwyaf angerddol drosto yw Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, holais Gemma ynghylch grwpiau oedran a chefndiroedd y gwirfoddolwyr. Rwy’n falch o glywed bod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar hyn yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot hefyd!
Dywed Gemma fod monitro ar gyfer y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi bod o fudd i ganfod y meysydd lle mae ymgysylltiad wedi bod yn isel. Cymerwyd camau unioni a bellach mae’r niferoedd wedi cynyddu, ond heb y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, mae’n bosibl na fyddai hyn wedi dod i’r amlwg.
Hefyd, bu gwaith monitro Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr o gymorth i ganfod amrywiaeth y grŵp y maent yn gweithio gydag ef a sut mae’r patrwm yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhagor o ymgysylltiad ieuenctid wedi cael ei fonitro’n ddiweddar, sy’n newid dulliau gweithredu’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol yn gyson (ac yn gadarnhaol!) gan sicrhau eu bod yn gyfoes.
Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi ysbrydoli’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol i wneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn cael y gefnogaeth briodol, a bydd hyd yn oed rhagor o grwpiau amrywiol yn cymryd rhan yn y dyfodol. Dywed Gemma hefyd fod y Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol, drwy rannu profiad a gwybodaeth, yn fwy na pharod i weithio gyda phob sefydliad yn yr ardal sydd angen unrhyw gymorth ychwanegol i sicrhau bod arferion ac adnoddau yn eu lle ganddynt i ddiwallu anghenion pob unigolyn.
Tumblr media
Ar fy ffordd yn ôl
Wrth gerdded yn ôl i’r orsaf dyma’r nefoedd yn agor ac rwy’n cael trochfa, ond rwyf wedi fy ysbrydoli ac yn hapus ar ôl yr hwb cadarnhaol hwn. Dywedodd Gemma fod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ymwneud â thîm, a dyma’r agwedd y mae angen i sefydliadau ei fabwysiadu tuag ato.
Teimlais yr ysbryd tîm ym mhopeth a ddywedodd Gemma yn ein cyfarfod, a thrwy fy ngwaith cyffredinol gyda thîm Gwirfoddoli CGGC dros y 2 fis diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r swyddfa a’i rannu gyda fy holl gydweithwyr.
Os hoffech gael gwybod mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, cadwch lygad ar eich tudalen CVC leol, gan y byddwn yn cyflwyno rhai sesiynau gwybodaeth am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel a ganlyn:
•       23 Hydref yn swyddfeydd CGGC yng Nghaerdydd
•       7 Tachwedd yn CV
•       8 Tachwedd yn DVSC
•       11 Tachwedd yn ffair gyllido PAS
•       29 Tachwedd yn CAVO 
Byddaf hefyd yn cynnal gweminar ar-lein ar 26 Tachwedd  - bydd y ddolen i gofrestru ar gael cyn bo hir.
Mae rhagor o wybodaeth am Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yma: https://iiv.investinginvolunteers.org.uk/
Dilynwch ni ar Twitter @WCVACymru
A chofiwch gysylltu â Korina os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau @korinations ar Twitter, e-bost [email protected], rhif ffôn 02920431773
0 notes
wcva · 5 years
Text
Sut i… wneud camgymeriadau
Tumblr media
Mae delio â chamgymeriadau yn sefyllfa anodd i bawb - ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at feysydd ar gyfer newid a thwf. Dyma Susie Ventris-Field ac Amber Demetrius o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn gofyn pam ein bod yn cael cymaint o drafferth i weld camgymeriadau fel cyfle i ddysgu.
Yn ôl arolwg diweddar ar linked in, rhestrodd 94% o gyflogeion ‘dysgu a datblygu’ fel eu prif reswm dros aros gyda chwmni.
Serch hynny, mae un sefyllfa lle mae pob mudiad yn ei chael yn anodd cynnal ysbryd y gweithlu a manteisio ar y cyfle i ddysgu, sef pan wneir camgymeriad.
Mae delio gyda chamgymeriadau a chwynion yn aml yn sefyllfa anodd iawn i reolwyr, cyflogeion a chleientiaid – rhywbeth y mae’n gas gennym feddwl amdano.
Ond pam na allwn gael pleser o’r cyfle gwerthfawr i ddysgu y mae sefyllfaoedd o’r fath yn ei gynnig? Dyma gyfle i wella – pam felly y mae’n llawn o’r fath boeni a gofidio?
Newid diwylliant
Ceir yr ateb i’r paradocs hwn yn yr agwedd yr ydym yn ei gymryd yn ddiwylliannol tuag at ‘wneud camgymeriadau’.
Yn blant, rydym yn cael arwyddion clir bod yna ‘ateb cywir’ a bod ein gwerth yn gysylltiedig â’n gallu i ddod o hyd iddo – yn yr ysgol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol a hyd yn oed yn ein bywydau teuluol.
I lawer ohonom, mae atebion cywir wedi bod yn gyfystyr â chanmoliaeth, dyrchafiad a llwyddiant cyffredinol.
Ar y llaw arall, mae ein camgymeriadau yn aml yn arwain at sgyrsiau anodd, gwaith ychwanegol ac ymdeimlad o fod yn annigonol.
Nid yw’r sector gwirfoddol yn rhydd rhag y duedd hon. Er gwaethaf ein dyhead i weithio’n dosturiol ac yn broffesiynol, rydym yn fynych yn gweithio mewn sefyllfaoedd lle mae pwysau amser a phwysau cyfathrebu yn arwain at wallau nad oes neb yn gyfforddus yn delio gyda nhw.
Mae ofn niweidio enw da mudiad yn sail i ofn gwneud camgymeriadau, a hynny’n ddealladwy. Rydym yn hoffi meddwl bod y strwythurau proffesiynol yr ydym yn gweithio ynddynt yn ein gwarchod rhag y mathau hyn o labeli ond yn aml mae’r gwrthwyneb yn wir.
Mae’n anodd rhoi gwerth ar chwilfrydedd pan fo camgymeriadau yn gwneud i ni deimlo’n fethiant. A dyna’r drafferth â’n hagwedd bresennol.
Mae nodweddion gwerthfawr fel meddwl yn greadigol, arloesi a’r gallu i addasu i gyd yn deilio o’n gallu i wneud camgymeriadau a gweithio gyda’r hyn sydd gennym o ganlyniad.
Drwy’r broses hon y darganfyddwyd penisilin, pelydr-x, microdon a phob cynnydd gwyddonol arall.
Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gofyn i’n hunain sut i wella ein meddylfryd a dathlu’r daith o wneud camgymeriadau.
Cywilydd, bai, ac euogrwydd
I ddatblygu meddylfryd mwy positif wrth ddelio gyda chamgymeriadau rhaid deall y teimladau sy’n eu hamgylchynu.
Pan aiff pethau o chwith, rydym yn dueddol o deimlo un o dri emosiwn: cywilydd (fy mai i yw popeth), bai (eu bai nhw yw popeth) neu euogrwydd (mae angen i mi wneud iawn).
Cywilydd yw’r anoddaf o’r tri o bell ffordd gan ei fod yn cael ei gysylltu mor agos â’n hunan-werth. Wrth deimlo cywilydd, rydym yn teimlo mai ni oedd y camgymeriad, rydym ni yn dda i ddim, mae’n ddatganiad o’n gwerth ni.
Mewn cyferbyniad â hynny, mae euogrwydd yn ein galluogi i ddeall mai un gwall oedd y camgymeriad y gallwn wneud iawn amdano. Mae unigolion sy’n teimlo euogrwydd yn aml yn ymdrechu’n ychwanegol i ddysgu gan eu bod yn deall y gallant wneud hynny, tra mae unigolion sy’n teimlo cywilydd yn chwilio am ffyrdd o guddio eu camgymeriad, neu osgoi delio gydag ef, neu gymryd arnynt na fu camgymeriad o gwbl.
Mae bai a dicter yn gysylltiedig â’r chwilio hwnnw: mae cywilydd yn ein gwneud yn fach ac yn ddi-werth ond mae bai yn ein gwneud yn gryf ac yn bwerus. Yn aml, mae unigolion sy’n beio eraill yn gwneud hynny am fod arnynt ofn y cywilydd sy’n gysylltiedig â chyfaddef eu bod hwythau’n gyfrifol.
Meddylfryd Twf
Mae hyn oll yn codi’r cwestiwn: beth allwn ni ei wneud i newid ein hagwedd at gamgymeriadau a dysgu?
Mae rhan fawr o’r ateb ar gael wrth fabwysiadu’r cysyniad o Feddylfryd Twf. Dyma ddiffiniad o Feddylfryd Twf: ‘cred bod eich rhinweddau sylfaenol yn bethau y gallwch eu meithrin drwy’ch ymdrechion’ (Carol Dweck).
Mae’r syniad hwn yn arbennig o bwerus yn ei allu i newid y canolbwynt i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn a thuag at y gwaith sydd angen ei wneud.
Dangoswyd bod myfyrwyr sy’n mabwysiadu meddylfryd twf yn gwneud yn well yn academaidd (a gyda llaw yn meddu ar sgiliau cymdeithasol a sgiliau rheoli personol gwell) gan eu bod yn deall y gallai popeth amdanynt wella gydag ymdrech.
Ar y sail hon, pe bai modd i ni addysgu mudiadau am yr emosiynau a geir yn sgil camgymeriadau a’r empathi a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol wrth roi meddylfryd twf ar waith, gallem weld dechrau ailaddasu diwylliannol.
Sut ydyn ni'n ei wneud?
Er mwyn i fudiadau roi meddylfryd twf ar waith, byddai angen i dwf a dysgu fod yn un o werthoedd craidd pawb yn y tîm.
Yn fynych, staff newydd neu staff iau sy’n dysgu/gwneud camgymeriadau yn fwyaf aml tra mae aelodau hŷn o’r tîm yn llawer llai bregus.
Dyma rywbeth y gellid mynd i’r afael ag ef drwy raglen datblygu proffesiynol amrywiol a thraws-sgilio ag aelodau o’r tîm.
Yn yr un modd, mae’n werth edrych ar faes polisi wrth fynd i’r afael â gwneud camgymeriadau.
Os oes gan eich mudiad werthoedd craidd, efallai y gall un o’r gwerthoedd hynny ystyried ffyrdd positif o ddelio gyda chamgymeriadau megis system fentora, offer cyfathrebu anffurfiol neu, yn syml, cytuno ar feddylfryd empathetig. Yn olaf, mae cydnabyddiaeth o’r dewrder sydd ei angen i arloesi neu fod yn fodlon derbyn adborth yn hanfodol. Fel y dywed Dweck, meddylfryd twf yw deall ‘roedd hynny’n anodd iawn. Fe wnes i ei fwynhau.’
Gyda chynifer o ddatblygiadau wedi bod yn yr hanner can mlynedd diwethaf, mae camgymeriadau yn gynyddol yn dod yn rhan o daith o ddarganfod ac rydym yn meddu ar yr allweddi – drwy gyd-ddewrder a chydgefnogaeth – i ddatgloi potensial ein gilydd.
Pwy a ŵyr ble y gallem fod mewn hanner can mlynedd arall, pan nad yw ein hofn o wneud camgymeriad yn sefyll yn ein ffordd…?
0 notes
wcva · 5 years
Text
Arweinydd y sector wirfoddol? Buddsoddwch yn eich hun
Tumblr media
Isla Horton o Grow Cardiff oedd derbynnydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn 2018. Yma, mae hi’n trafod ei diffiniad o arweinyddiaeth mentrwr a pham y dylech gymryd eich datblygiad arweinyddiaeth personol o ddifrif.
Mae fy merch ar fin dechrau ym mlwyddyn 7, felly dros y flwyddyn ddiwethaf yr wyf wedi defnyddio fwy na un noswaith yn archwilio ein hysgolion uwchradd lleol.
‘Ai chi yw’r Steve Jobs nesaf?’
‘Fedrwch chi ddyfeisio’r Dyson nesaf?’
Rhain oedd y cyfarchion rheolaidd y cawsoch wrth gerdded drwy ddrysau’r ysgolion, wedi eu gludo ar eu nenfydau a’u grisiau. Yr alwad entrepreuneriadd.
Pan welais fod Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie wedi ei dylunio i ddatblygu arweinyddiaeth ‘entrepreuneraidd’, meddyliais gyntaf nad oedd ar fy nghyfer i, a fu bron i mi beidio ymgeisio.
Y arweinydd entrepreneuraiff oedd yn fy meddwl oedd Richard Branson, Elon Musk – cymryd risgiau ac yn adeiliadu eu ymerodraethau busnes, yn deffro am 5yb ar eu hynysoedd preifat ac yn hedfan o amgylch y byd.  
Yna roeddwn innau. Gan amlaf rwy’n lwcus os gallaf gael y plant i’r ysgol ar amser, fod gennym ddillad isaf glan, ac nad oes neb wedi marw cyn 9yb.
Ond ydym ni’n entrepreuneriaid hefyd?
Os ydych yn gweithio yn y sector wirfoddol, mae hi’n debygol iawn eich bod yn gyfarwydd iawn gydag ymgeisio am grantiau, bwrsariaethau, benthyciadau, cyllid sbarduno ar gyfer syniadau mentrau cymdeithasol – cyflwyno’r achos dros eich prosiect neu eich achos.
A beth yw hyn os nad yw’n entrepreneuriaeth? Siapio’ch achos i ennill eich plwy mewn diwydiant hynod gystadleuol – llawer o fudiadau gyda phrosiectau gwych oll yn ymgeisio am y cyllid o’r un gronfa.
Ac os yw bwrsari Walter Dickie yn gronfa ar gyfer prosiectau, tybiais hefyd y byddai hwnnw hefyd yn cael ei orddefnyddio – ond roeddwn wedi fy synnu i ddeall nad oedd hyn yn wir, roedd yn gwbl groes.  
Efallai fatha mi, nid oes llawer o arweinwyr mudiadau gwirfoddol yn gweld eu hunain fel entrepreneuriaid.
Tybiaf mai’r prif reswm yw eich bod yn meddwl am y bobl, lle neu efallai anifeiliaid sydd yn eich gofal fel arweinydd eich mudiad yn gyntaf oll. Eu gweld hwy yn ffynnu yw eich achos dros godi yn y bore – ac mae hynny ddigon teg.  
Mae sicrhau cyllid a chefnogi’r rhai sydd angen eich prosiect, eich staff a’ch gwirfoddolwyr a delio gyda’r holl heriau annisgwyl sy’n dod i’r amlwg ac nad oeddynt ar y rhestr i’w gwneud... wel mae hynny’n ddigon o bethau i ddelio gyda hwy.
Efallai y byddwch yn cymryd diwrnod neu ddwy flynedd i hyfforddi, ond rwy’n tybio bod buddsoddi go iawn yn eich datblygiad proffesiynol ar waelod eich rhestr o bethau i’w gwneud.
Wel, dyna oeddwn i yn yr hydref llynedd. Roedd yn teimlo bron yn hunanol i feddwl beth y gallwn ei wneud gyda Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Ac os mai felly ydych chi, wel gellaf eich annog i bwyllo ac ailystyried, i fentro i freuddwydio beth gallwch chi ei wneud i wella’ch gallu i arwain yn effeithiol gyda £2,500.
Buddsoddwch yn eich hun
I mi mae’r amser i ddatblygu fy ngallu arweinyddiaeth wedi bod yn anadl o awyr iach.  
Mae wedi rhoi’r cyfle gwych i mi i deithio i Montreal, Canada ble mae tyfu yn gymunedol ugain i ddeg ar hugain mlynedd ar ein blaenau ni yma yng Nghymru.
Mae rhywbeth ynghylch gweld pobl yn goresgyn rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu naw, sy’n gwneud i chi greu y gellir gwneud hynny, ac y gallaf i fod yr un i’n harwain ni i wneud hynny.  
Roedd 10 diwrnod ar fy mhen fy hun yn Montreal yn antur lwyr, ac wedi fy nhaflu yn llwyr o’m cylch cysur. Yn ddeffroad ac yn ysgytwad i be all Grow Cardiff fod.  
Mae’n amlwg i mi fod buddsoddi yn eich hun fel arweinydd yn fuddsoddiad i’ch prosiect a’ch mudiad.
Rwyf wedi ymweld â phrosiectau gwych, wedi cyfarfod â phobl ysbrydoledig, - pobl ifanc – wedi herio fy ffordd o feddwl dro ar ôl tro, ac wedi profi hapurwydd annisgwyl hefyd – cellwair gyda Jesuitiaid ynghylch Mrs Brown’s Boys, gwylio morfilod, gwerthin gyda gwleidyddion ffeministaidd.
Ceifais rhai dyddiau o brysur bwyso hefyd – criais o ddifrif a chael amser angenrehdiol i feddwl am bwy oeddwn i bellach, fy nheulu a beth sydd wirioneddol yn bwysig.  
Ond ar gyfer beth oedd hyn oll? Wel rwyf wedi dod â synnwyr ffres o beth sy’n bosib a faint yn fwy sy’n cael ei gyflawni pan rydym yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth weithredol – dim cystadleuaeth – gyda mudiadau eraill.
Camau nesaf
Rhan yn unig o’r daith oedd Canada. Yn defnyddio gweddill y bwrsari, byddaf yn teithio i astudio yn  Thrive, canolfan rhagoriaeth garddwriaethol therapiwtig – i ddysgu ac enill sgiliau o’r newydd – rhywbeth na fyddai fy mudiad fel arall yn gallu fforddio galluogi i mi ei wneud.
Felly os ydych mewn rôl arweinydd yn eich mudiad, rwyf wirioneddol yn eich gwahodd i ystyried o ddifrif i ymgeisio am fwrsari Walter Dickie ac i rannu’r cyfle hwn gyda’ch cydweithwyr a’ch partneriaid mewn mudiadau eraill.
Dolen berthnasol: mae Bwrsari Walter Dickie yn cymryd ymgeisiadau nawr - buddsoddwch yn eich sgiliau arweinyddiaeth.
(Hyd yn hyn dim ond dau fudiad yng Nghaerdydd sydd wedi ei dderbyn – efallai ei fod yn gyfle iddo ddod am y gogledd!)  
Mae’r broses ymgeisio ei hun yn hawdd iawn ac ni ddylai gymryd fwy nac ychydig o oriau i’w gwblhau.
Dywedodd y tîm yn CGGC wrthaf yn y ddwy flynedd, mai’r pobl sydd wedi derbyn y bwrsari yw’r rhai sydd wedi gwneud galwad. Ffoniwch dîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru yn CGGC cyn ymgeisio ar 0300 111 0124 i drafod y broses.
Cymrwch amser i feddwl am yr hyn yr ydych wirioneddol eisiau ei wneud gyda’r cyfle, hogwch y syniad, siaradwch gyda’ch cyflogwr neu eich bwrdd, i gael eu cefnogaeth – ac ewch ati i ysgrifennu.
Nid oes unrhyw gwestiynau i’ch baglu ac unrhyw gyfyngiadau geiriau hurt o fach, ysgrifennwch fel y mynnwch ac ystyriwch yr hyn gallwch ei gyflawni.
Weithiau’r hyn sy’n ein dal yn ôl fwyaf ydym ni ein hunain
Ac yn ôl i’r negeseuon hynny ar risiau a nenfydau’r ysgol uwchradd.
Efallai nad wyf yr un fath â Steve Jobs neu Elon Musk, neu yn wir Richard Branson, ond roed un dyfyniad a oedd yn cyseinio â mi – rhywbeth a ddywedodd Oscar Romero, offeiriad catholig o El Salvador. Rhoddodd ei fywyd i frwydro dros y tlawd a’r rhai ar yr ymylon ac fe’i merthyrwyd yn y diwedd am wneud hynny.
‘Aspire not to have more, but to be more.’ Dyna’r math o arweinydd yr wyf i eisiau bod ac annog eraill i fod – ac mae’r bwrsari hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie bellach ar agor. Lawrlwythwch y ffurflen ymgeisio.
Cyn ymgeisio, rydym yn awgrymu eich bod yn cael sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r broses gyda Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy ebostio [email protected] neu ffonio 0300 111 0124.
Mae’r rownd yn cau ar 18 Hydref 2019.
0 notes
wcva · 5 years
Text
Bod yn ymddiriedolwr ar Fwrdd CGGC
Tumblr media
Mae Joe Stockley o Diverse Cymru (top dde) wedi bod ar Fwrdd CGGC ers 10 mis. Yma, mae’n rhannu ei brofiadau yn y gobaith o annog darpar ymddiriedolwyr i fynd amdani.
Pam fi?
Roeddwn i wedi cael ychydig o brofiad ymddiriedolwr gyda’r British Youth Council (BYC) ac wedi caru’r cyfnod hwnnw – wrth fy modd gyda’r sgiliau i ddatblygu ac yn caru’r math o gefnogaeth yr oeddwn yn gallu ei gefnogi.  
Ac roeddwn yn caru CGGC! Gweithiais yno am gyfnod o ddau fis yn 2017 a chael amser gwych. Maent yn dîm bendigedig, gyda chyfarwyddyd clir.
Mae geni farn gref y dylai elusennau gael byrddau sy’n cynrychioli eu demographeg darged – rwy’n credu fod profiadau go iawn yn aml ar goll o strategaeth ac wrth wneud penderfyniadau.  
(Elusennau Ieuenctid™ heb bobl ifanc ar eu byrddau yn enghraifft bennaf...)  
Pan welais y cyfle i ymuno â Bwrdd CGGC, teimlais ei fod yn gyfle i roi hyn ar waith – gydag aelodaeth CGGC yn cynrychioli ystod eang iawn o fudiadau, roedd yn ymddangos yn addas y dylid cael person ifanc ar eu bwrdd.
Ac yn olaf, yn fy rôl bresennol yn Diverse Cymru, mudiad gwirfoddol yng Nghymru, roeddwn wir eisiau cynyddu fy nealltwriaeth o’r sector yng Nghymru ar lefel strategol.
Pa le gwell i mi fynd i’r afael â’r sector gyda llu o heriau a chyfleoedd ar ddod yn y blynyddoedd nesaf na chorff aelodaeth genedlaethol mudiadau gwirfoddol yng Nghymru?
Yn y deg mis diwethaf....
Rwyf wedi bod yn rhan o ailfrandio, a phlymio i mewn i’n haelodaeth, a rheoli llanw Brexit a beth mae’n ei olygu i’r sector wirfoddol yng Nghymru.  
Rydym hefyd wedi mynd o nerth i nerth gyda gofod3 – roedd yn ddigon ffodus i gael diwrnod rhydd i fynychu, cefnogi’r tîm staff drwy gydol y dydd, a helpu i hwyluso’r arddangosfa’r gwirfoddolwyr ifanc arloesol gyda’r nos.  
Gyda’r Prosiect Bwrdd Gwirfoddoli Cymru, ble rwyf yn gadeirydd, rydym wedi cefnogi dwsinau o brosiect a chynlluniau gyda dwsinau o grantiau, ac wir wedi archwilio ein pwrpas a chryfder ein gwaith.
Mae cwestiynau pwysig wedi cael eu trafod – pwy ydym ni, beth all ein rôl fod dros y bum mlynedd nesaf – cwestiynau mawr heb ateb syml.
Yn fyr, mae’r deg mis o ymddiriedolaeth wedi bod yn llawn dop â chyfleoedd dysgu a heriau. Heriau personol ac i fy sgiliau.  
Beth yr wyf wedi’i ddysgu
Yn symud i CGGC fel ymddiriedolwr, roedd gen i, ac mae dal gen i, syndrom ‘imposter’. Fi yw’r aelod ieuengaf ar y bwrdd o o leiaf 10 mlynedd.
Nid wyf wedi teimlo unrhyw beth ond cefnogaeth a chymorth tuag at fy nealltwriaeth – o syniadau mawr o genhadaeth yr elusen i’r manion o ddydd i ddydd wrth redeg elusen £14 miliwn.
Rwyf wedi dysgu yn fwy na dim i feddiannu fy arbenigedd, wrth geisio gwthio allan ohono. ‘Ceisio’ i beidio bod yn gyfforddus, ac i ddweud ie i wneud pethau.
Gan ystyried hynny mewn perthynas â glynnu wrth gredoau a chadw eich amser rhydd eich hun (ac yn cael penwythnosau rhydd).  
Dolen berthnasol: Oes gennych ddiddordeb? Pam na wnewch chi ymgeisio i wneud mwy o wahaniaeth fel ymddiriedolwr i CGGC.
Gan ddysgu hefyd fod pobl eisiau helpu – ac yn cymryd yr help hwnnw. Ni fuaswn i’n agos o gwbl at fod yn ymddiriedolwr hyderus oni bai i aelodau staff ac ymddiriedolwyr eraill roi coffi a’u hamser i mi i drafod am brosiectau, rhaglenni a chyllidebau.
Yn olaf, a dywedir hyn o hyd, ond i beidio â theimlo’n wirion wrth ofyn cwestiynau allai fod yn wirion.  
Y siawns yw, ni fydd yn gwestiwn gwirion, a bydd oleiaf tri pherson arall yn meddwl yr un peth â chi.
Pam nid chi?
I grynhoi, mae fy neg mis ar fwrdd CGGC wedi fy ngwneud i feddwl yn well, datblygu fy nealltwriaeth strategol, ac agor fy llygaid.
Rwy’n gobeithio fy mod, yn gyfnewid, yn fy nhro, wedi rhoi fy amser a’m profiad i fod yn ‘werth ychwanegol’ yn fy naliadaeth.
Mae elusennau yn codi ac yn disgyn ar drosiant, ond bydd ethos elusen yn codi a disgyn ar gryfder a phrofiadau eu gwirfoddolwyr.
Cefnogwch a datblygwch yr ethos; ymgeisiwch i fod yn ymddiriedolwr gydag CGGC!
Dolen perthnasol: Pam ymddiriedolwyr ifanc? (Saesneg) 
0 notes