The Best One-Day Walks in Wales
From the coastal cliffs of Pembrokeshire to the mountains of Snowdonia, Wales is home to some spectacular scenery and walking routes that make admiring the landscape easy.
Whether hikers want to tackle the highest peaks or experience some of the most remote settings, there is a route for everyone in Wales.
For Nishat Gupte, the mountains of Wales offer some of the best walks in the United Kingdom.
The Golden Road, Pembrokeshire
The Preseli Hills in Pembrokeshire are an alternative to the more popular Coastal Path. The Golden Road is a gentle hiking trail that offers stunning views across the landscape. On clear days, hikers can see Snowdonia, Cardigan Bay, and even Ireland. The hiking route is believed to date as far back as the Neolithic period and includes quarries (from which the stones at Stonehenge are believed to be from) and an Iron Age fortress.
The Snowdon Horseshoe, Snowdonia
Snowdonia is the highest peak in Wales and offers six trails to the summit with varying degrees of difficulty. The Snowdon Horseshoe route offers stunning views and a tricky walk along the Crib Goch ridge. Hikers should start the trail early to avoid the crowds, but it shouldn’t be attempted in poor or windy conditions as exposure can be extreme.
Holyhead Mountain, Anglesey
Anglesey’s countryside and coastline are a sight to behold. The Holyhead Mountain route combines the varied terrain of hill walking with the stunning scenery of a coastal hike. The trail starts at the car park of the Breakwater Country Park, before heading towards the cliffs. This trail gives nature-lovers the chance to catch a glimpse of puffins and other unique bird species.
Llanbedr Woods, Gwynedd
The oak woods of Llanbedr hug the hillsides above Afon Artro and are part of the temperate forest that once covered most of the country. The 6.5 mile walk that passes through this ancient woodland is teeming with wildlife and is especially stunning in late summer and autumn when the trees start to change.
Cwm Llwch Horseshoe Walk, Brecon Beacons
The Cwm Llwch Horseshoe Walk is a sensational route towards the Pen y Fan summit, complete with a spectacular landscape and unique geological features. It is also a quieter route to the Brecon Beacons’ highest point. After reaching the top of Pen y Fan, hikers can carry on to the summit of Corn Du.
0 notes
Cystadleuaeth Cadair Pat Neill – Aros – Huw Dylan Owen, Treforys (ffugenw: Derfel)
Aros
Pen Set
Er y brys, rhwydd a di-oed fu f'oedi,
Cefais ffics o Netflix a dyna ni
Yno'n ddiddos. Heb os roedd 'na bwysau
Lasŵ o'm hamgylch, teimlo'r cylch yn cau.
O'r sgrin mewn cowboi-siwt ai fy nhiwtor
Welwn â drylliau ’stadegau di-dor?
Ond llawenydd oedd hirddydd cyfforddus
O heddwch iach a sleboga'n ddi-chwys.
Tu hwnt i'r hoe a phaned roedd dedlain
Nad oedd yn cymell, fel llinell mewn llain
A her iasol hen gowboi i'w chroesi
Ar ei geffyl gwyn yn fy nychryn i.
O'r fan hyn mae'n llinell bell sydd yn bod
I herio a minnau ar ddisberod.
Llain Galed M4
Yn wyrthiol rhwng sbwriel gwrthun - a mwg
Mewn man diamddiffyn
Yn iach a hardd ymysg chwyn
Mae haul y blodau melyn.
Ni Fethodd Gweddi Daer Erioed
Gwylia hon a’i goleuni yn cerdded
I’r cwrdd yn ei chloffni
I heddwch ei thŷ gweddi,
Y gynta’ i’w hoedfa yw hi.
I oedfa o henoed lledfyw – wele'r
Wylaidd drwy dre ddidduw
Yn baglu i Dŷ ei Duw,
Annedwydd unig ydyw.
Yn unig cerdd ei hunan â’i hysgryd,
Yn fusgrell fel cryman
 chamau yn ei chwman
I gael awr o’r ysbryd glân.
Un awr lân aiff ar liniau – un orig
O fore’i gweddïau,
Awr hir o edifarhau
Un awr a’i thaith yn oriau.
Hir artaith fu’r daith y dwthwn – hwnnw,
Di-hoen, di-emosiwn
A bas a di-demtasiwn
Ydyw crwydr ei hollfyd crwn.
Yno mae gwynfyd ei byd bach – unig,
Ac yno’i chyfeddach
Â’i Chalfin, dyma’i chilfach
A man oer emynau iach.
Â’i hemynau mae yno – a’i chanu
Yn chwennych ddoe eto
A'n ddiwyd ei gweddïo
I nawdd Ei Oleuni O.
Crebachu
Mae yno’n erwau Mynwy,
Yno mae, er nad yw mwy.
Yno bu tranc yr heniaith
A'i gwres, ond erys yn graith
Ddaliwyd ar hap mewn mapiau...
Ein hiaith na ellir rhyddhau.
Y Gymraeg hen mewn enwau
A’u rhith sy’n mynnu parhau
I raddau ar arwyddion
Ar yr hewl i’r Gymru hon.
Iaith welaf, ond di-lafar
A hesb yw, aeth geiriau'n sbâr,
Iaith na chlywaf ar dafod
Yno'n byw, ond mae hi'n bod.
Di-glywed ond gweledig
Yno'n drwch hen enwau drig
A geiriau yn y gweryd
O'r llwch yn harddwch o hyd.
Cyfforddus
Er mor ansad ydyw'r gwadnau - a hyll
A thyllog y sodlau;
Er eu hoed a'u hen lledr brau
Y rhain saif yn ffefrynnau.
Disgwyl
Yn hogyn roedd fy neges – yn eglur,
Yn raglen wrth-ormes,
A’m tafod rydd di-rodres
Yn ffraeth a’m dyddiau yn ffres.
Dyddiau fu’n llawn gwleidyddiaeth – a nefoedd
Cyfiawn wrth-wladwriaeth,
A chanu am Gymru gaeth
Yn seiliau fy sosialaeth.
Hyn o sylwedd roddodd seiliau, – fory
Guevara trown innau!
Rhown faeth i’r cenedlaethau
A mwy, gan ochel dogmâu.
Anochel bod dyfodol – o arwain,
Herio’r drefn geidwadol
Yn arwr egwyddorol,
Ysblennydd lywydd di-lol.
Rhyw lolian rhwydd oedd blwyddyn – o wyliau
At ‘Dolig tra’n blentyn;
Yma nawr a minnau’n hyn
Rhy gynnar yw tro’r gwanwyn.
Yn gynnar daeth deugeiniau – a’i gwynion,
Rhy gynnar i minnau
Gael mantais uchelgeisiau,
A’r haf pob blwydd yn byrhau.
'Rol hapusrwydd tro'r flwyddyn – yn wylaidd
Sylweddoli'n sydyn:
Rhith 'dwi, i ble'r aeth y dyn
Yr anogais tra'n hogyn.
"Nice day, makes it go quicker"
Er yr haul hir-ymarhous -yw heddiw,
Rhaid dioddef y cyfoes
A hin boenydia einioes-
I rai rhy hir yw eu hoes.
Cyllell Boced Tad-cu
Pery'n finiog er na fu hogi – llafn
Ei gyllell hen 'leni,
Ei hiraeth ddeil i dorri
Drwy niwl y cof ynof fi.
Erfyn
Un wennol yw'n hysgolion,
Un rhy hwyr i'r Gymru hon.
Amatur yw’n blaguro
Yn ein gwlad hyd erwau’r glo.
I’n hiaith hen, nid gwên ond gwg,
Mae’r gwanwyn ym morgannwg?
Canmlwyddiant y Capel
I’w hyfory rhoesant fawredd – a rhoi
O’u gras a’u hynawsedd,
Gosod eu gwir ar dirwedd
A hau had i gywain hedd.
Craf a naddu heddwch – yn eu cwm,
Creu lle cain o lân hagrwch,
Yn werddon o harddwch
A rhoi’u credo drosto’n drwch.
Yn gymyn rhoi’i dirlun gadeirlan – wâr
gariad dan hugan
O fwg, rhoi gwawl eu mawlgan
Yn deml uwch tyrrau o dân.
Rhoi tŵr i’w hiachawdwriaeth – a gosod
Gwŷs mewn pensaerniaeth,
A neges eu Cristnogaeth
Yn llenwi’r meini â’u maeth.
Mae yno fwy na meini – a doethwyr;
Mae cymdeithas heini
A graen yn ei sylfeini
Yn nawdd i’n haddoli ni.
Yn nodded i’n cymunedau – yn sad
Fe saif drwy’r blynyddau,
Yn iasol drwy hir oesau
Meini hen yn lain mwynhau.
Ein gwaddol yw’r hen addoldy – odiaeth,
Treftadaeth i’w ddathlu,
Onid hardd y saif ein t ŷ
I herio ein hyfory.
Saith
(Cynhelir coffadwriaeth blynyddol Brwydr Llwchwr/Gwyr 1136 ar ddydd calan am hanner dydd yn Garn Goch. Bu farw 500 dros Gymru ym Mrwydr Llwchwr. Llynedd - saith ddaeth i gofio...)
Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn
eu cyfiawn caledwaith;
I wrando gwlatgar araith
Yn swil heddiw daeth ond saith.
Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w hangau'n
Llwyr ingol dros heniaith;
'N ufudd i gofio'r afiaith
Yn syn eleni 'mond saith.
Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri
A'r marw bum-canwaith,
Colli'r cyfan drwy anrhaith;
Yn siom eleni daeth saith.
Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr
pery malais artaith
Y gad a'i holl anfadwaith
Erchyll; yn sefyll 'roedd saith.
Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau
Yn claddu eu gobaith;
O'u gwirfodd nawr at gerfwaith
Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.
Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst
Y drin a'u gorchestwaith
O fynnu cartref uniaith;
Dros Gymru'n sythu 'roedd saith.
Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol
I naddu gwlad berffaith,
Gwaed cad yn adeiladwaith;
Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith.
Nodyn gan y Bardd
Fe’m ganwyd yn Crewe, fe’m magwyd yn Nolgellau, ac wedi cyfnodau mewn prifysgolion (Pontypridd, Caerdydd, Caerwysg, ac Abertawe), rwy’n byw ers troad y ganrif yn Nhreforys, Abertawe. Yn briod â dwy o ferched (Mirain yn ysgol Bryntawe, Abertawe, a Heledd ym Mhrifysgol Aberystwyth), rwy’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys.
Rwyf yn gerddor gwerin (banjo a’r mandolin ac ati) ac wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda grwpiau gwerin (e.e. Gwerinos, Alltud). Yn ogystal â threfnu a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn Abertawe, rwyf yn rhoi gwersi Cymraeg yng nghlwb y gweithwyr yn Nhreforys. Cyhoeddais gyfrol ar archeoleg ym Meirionnydd (Meini Meirionnydd) a chyfrol ar ddiwylliant cerddoriaeth werin (Sesiwn yng Nghymru). Rwyf yn cyhoeddi englynion yn rheolaidd drwy drydar: @Gurfal
0 notes